Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 16 Ionawr 2018.
Wel, pe byddem wedi gweld ethol Jeremy Corbyn a John McDonnell yn 2017, nid wyf yn credu bod yna unrhyw un yn yr ystafell hon nad yw o'r farn y byddai gennym gyllideb hollol wahanol.
Mae'r grant bloc gan y Torïaid yn San Steffan yn annigonol. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, rwy'n disgwyl gweld y Ceidwadwyr yn galw am fwy o arian ar gyfer iechyd, mwy o arian ar gyfer addysg, ac yn gwrthwynebu unrhyw doriadau yn cael eu gorfodi ar awdurdodau lleol oherwydd y gostyngiad yn eu grantiau bloc, gan wynebu'r angen cynyddol am ofal cymdeithasol a gwasanaethau plant. Mae cyni wedi methu fel polisi economaidd. Mae wedi yn methu yn wastadol fel polisi economaidd. Rhoddwyd cynnig arno lawer gwaith; fe fethodd bob tro.
Rydym yn trafod hanes—dyna wnaeth Neil Hamilton. Gadewch inni drafod yr hyn a ddigwyddodd yn Chile pan welsom ni'r Llywodraeth adain dde eithafol yno. Beth wnaethon nhw? Fe ddilynon nhw ysgol Chicago. Fe wnaethon nhw'r union beth a ddywedason nhw o ran cwtogi, ac fe wnaeth eu heconomi bron â diflannu'n llwyr. Ideoleg o grebachu sector y wladwriaeth yw hon, lleihau gwariant cyhoeddus, lleihau gwasanaethau cyhoeddus a gorfodi pobl sydd â'r modd ariannol i ddefnyddio'r sector preifat.
Unwaith eto, nid ydym yn gwahaniaethu rhwng cyfalaf a refeniw. Mae gwariant cyfalaf yn beth rhagorol. Mae'n rhagorol i'r economi, ac mae'n rhywbeth y mae pobl yn ei wneud yn eu bywydau eu hunain. Dyna un o'r materion yr arferai Margaret Thatcher sôn amdano: mae'n rhaid gofalu am yr economi fel y gwna gwraig y tŷ. Wel, mae pobl yn gwneud hynny: maen nhw'n cael benthyg arian i brynu ceir, maen nhw'n cael benthyg arian i dalu eu morgeisi ar sail yr arian y gallan nhw fforddio ei dalu yn ôl. Pam nad oes gennym ni, yn Llywodraeth Cymru, yr un galluoedd â'r rheini sy'n bodoli ym mhob awdurdod lleol ym Mhrydain, gan gynnwys Rutland, i fenthyca'n ofalus—. Caiff ein terfyn ariannol ni ei osod gan y Canghellor. Mae'r rheolau sydd gennym ni'n fwy llym na'r rhai sydd gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.
Rwyf i o'r farn fod angen arian ychwanegol arnom ni. Mae angen arian ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd. Ond mae'n parhau i gael arian ychwanegol ac oherwydd nad oes gennym ragor o arian yn y system—. Nododd Michael Trickey o Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn ddiweddar pryd y bydd yn cyrraedd 60 y cant o gyfanswm y gwariant yng Nghymru. Holais i ef a fyddai'n dweud wrthym pryd fyddai'n cyrraedd 100 y cant. Ni chafwyd ateb, ond oddeutu 2050 fydd hynny'n digwydd.
Ystyrir bod mwy o bobl yn cael eu trin mewn ysbytai yn arwydd o lwyddiant. Lleihau'r galw sydd ei angen. Mae angen inni hyrwyddo dewisiadau cadarnhaol o ran ffordd o fyw: dim ysmygu, mwy o ymarfer corff, cyfraddau llai o ordewdra a chymryd cyffuriau. Mae angen inni hefyd wella ansawdd tai, gwella deiet a chael mwy o ofal cymdeithasol. Byddai hynny o gymorth. Rhoddaf sylw i un peth fel diabetes math 2. Un o'i brif achosion yw bod yn rhy drwm neu'n ordew. Mae angen ymgyrch arnom ni dan arweiniad gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol i geisio cael pobl i fynd ar ddeiet os oes ganddyn nhw ddiabetes math 2 fel bod modd gostwng eu pwysau a gwella ohono.
Yn olaf, fe hoffwn i dynnu sylw at un peth: Cyfoeth Naturiol Cymru—a yw'n cael ei gyllido'n iawn? A gaiff ei ariannu'n ddigonol i allu cyflawni'r holl swyddogaethau y gofynnir iddo'u cyflawni? Os na yw'r ateb, yna mae gennym ddau ddewis: rhoi mwy o arian iddo neu ofyn iddo wneud llai o waith.