Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 16 Ionawr 2018.
Llywydd, yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, cymeradwyais gymorth Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol dros yr wyth mlynedd diwethaf o gyni a lleihau cyllidebau, ac rwy'n falch o ddechrau drwy ganolbwyntio ar y flaenoriaeth honno eto heddiw. Credaf ei bod hi'n werth cofnodi eto heddiw, ac atgoffa'r Aelodau, fod gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 8 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Credaf yng nghyd-destun y ddadl gyllideb derfynol hon heddiw, y bu hi'n ddefnyddiol cael yr adroddiad a'r datganiad ar yr arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n dangos cyfleoedd ar gyfer trawsnewid ein darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Braf oedd clywed y sylwadau cadarnhaol gan y tîm adolygu. Mae pethau da yn digwydd yng Nghymru: er enghraifft, gofal iechyd darbodus a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Rwyf wedi siarad am fy nghefnogaeth i'r gronfa gofal integredig, a luniwyd mewn gwirionedd gan bleidiau o bob rhan—yn sicr tair plaid yn y Siambr hon. Mae £50 yn y Gronfa Gofal Integredig. Caiff ei chynnal yn y gyllideb hon gyda chynnydd mewn cyfalaf. Credaf, mewn gwirionedd, fod y gronfa hon yn helpu i gynnig y ddarpariaeth ddi-dor y mae ei hangen wrth ddefnyddio gwasanaethau, y mae'r adolygiad, wrth gwrs, yn sôn amdani.
Rwyf eisiau sôn am ymrwymiad y trydydd sector wrth ddarparu'r gronfa gofal integredig, sy'n amlwg yn cyfrannu at yr agenda ataliol, fel y dangosir yng Ngwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.