Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 16 Ionawr 2018.
Ers 2010 mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn gweithio mewn hinsawdd ariannol hynod o anodd o ganlyniad i bolisi dinistriol llymder y Torïaid. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau lleol wedi cael eu colli, a'r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymunedau sy'n cael eu heffeithio fwyaf. Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yng Nghymru—toriad o 1.4 y cant yn 2016-17 a 3.4 y cant yn 2015-16—fel rhan o'r cytundeb ar gyfer y gyllideb flwyddyn ddiwethaf, mi wnaeth Plaid Cymru sicrhau £25 miliwn ychwanegol ar gyfer ariannu awdurdodau lleol. O ganlyniad i'r cytundeb yma, yn 2017-18, mi wnaeth nifer o awdurdodau lleol Cymru weld cynnydd ariannol yn eu cyllidebau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd. Ond er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol hynny, yn dilyn ffactorau eraill fel chwyddiant a phwysau sylweddol am fwy o wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol, mi oedd y setliad hwnnw yn doriad mewn termau real i rai awdurdodau lleol.
A dyna'r gwirionedd ar gyfer y flwyddyn yma hefyd. Mae'r setliad terfynol yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol, gyda naw awdurdod yn wynebu toriad, ac 13 o awdurdodau yn gweld cynnydd o ryw fath mewn termau ariannol. Mae awdurdodau lleol wedi arbed dros £700 miliwn ers dechrau llymder yn 2010. Ond, mewn gwirionedd, nid ydy'r setliad yma dal ddim yn rhoi arian digonol i gynghorau ar gyfer nifer o flaenoriaethau'r Llywodraeth, gan gynnwys codiad cyflog i weithwyr cyhoeddus o fewn awdurdodau lleol, ac mae hyn yn golygu y bydd hi'n anoddach i gyflogi yn y sector gofal ac mewn gwasanaethau ar draws y bwrdd.
Felly, er bod y setliad yma yn llai niweidiol i awdurdodau na rhai blynyddoedd yn ôl, mae'n rhaid i'r Llywodraeth edrych i'r dyfodol a meddwl am adeiladu dycnwch, gwydnwch a system fwy cynaliadwy yn y ffordd y maen nhw’n ariannu llywodraeth leol. Er enghraifft, fe gyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf reoliadau cynlluniau gostyngiadau treth gyngor, sydd yn werth £244 miliwn bob blwyddyn. Mae cynlluniau gostyngiadau y dreth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fregus Cymru, wrth gwrs, ond drwy gyflwyno system decach o drethiant yn y lle cyntaf, hynny yw, gallwn fod mewn sefyllfa lle na fyddai angen cynllun gostyngiadau y dreth gyngor mor eang a phellgyrhaeddol ag sydd gennym ni ar hyn o bryd. Petasem ni'n gallu cyflwyno system decach o drethiant, byddem ni’n gallu bod yn arbed arian yn y maes yma. Gall hyn ryddhau mwy o arian a all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen o fewn ein cynghorau lleol ni.
Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi yn fan hyn bod y rhain yn wasanaethau hollbwysig ac rydym ni hefyd yn cydnabod y gwaith diflino sydd yn digwydd gan staff y cynghorau lleol. Rydym ni yn aml yn fan hyn yn brolio staff yr NHS, ac yn amlwg mae eisiau gwneud hynny, ond mae'n rhaid cydnabod hefyd fod gweithwyr yn y sector gofal ac mewn sectorau eraill hefyd o fewn ein cynghorau lleol ni hefyd yn gweithio dan gyfyngiadau parhaus, ac mae’r gwaith diflino maen nhw’n ei wneud i’w ganmol. Mae eu hymrwymiad nhw i’r gwasanaethau maen nhw’n ceisio eu cyflenwi i bobl Cymru yn cael ei werthfawrogi gennym ni i gyd. Mae gweld y pwysau cynyddol yma sydd ar y staff yn dorcalonnus, ond mae hefyd yn dorcalonnus o ystyried mai’r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymdeithas ni sy’n ddibynnol ar y gwasanaethau yma, a nhw, yn y pen draw, sy’n cael eu heffeithio waethaf gan hyn i gyd.
Oes, mae eisiau rhoi terfyn ar lymder—wrth gwrs bod eisiau cael terfyn ar lymder erbyn hyn. Mae’n hollol amlwg nad ydy o’n gweithio, yn un peth, heblaw am yr holl effaith mae o’n ei gael ar ein cymunedau ni. Ond hefyd, mae angen i’r Llywodraeth yma gymryd cyfrifoldeb a derbyn cyfrifoldeb ar weithio ar ffyrdd newydd o greu systemau sydd yn gytbwys ac yn gynaliadwy i’r dyfodol. Diolch.