Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch i chi am eich atebion, Weinidog. A ydych yn cytuno, yn amlwg, mai'r ffordd orau i leihau deunydd pacio plastig yw ei leihau wrth lygad y ffynnon? Yn amlwg, mae'n galonogol iawn clywed am fwriadau Iceland i roi'r gorau i ddefnyddio deunydd pacio plastig yn eu nwyddau o fewn pum mlynedd. Gyda hynny mewn golwg, tybed a ydych wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda busnesau yng Nghymru i geisio rhoi diwedd ar ddefnyddio'r holl ddeunydd pacio na ellir ei ailgylchu, neu a allech chi gyflwyno cynigion deddfwriaethol i alluogi hynny i ddigwydd?