Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rydych yn hollol gywir i sôn am Iceland, gyda'u cynigion i leihau deunydd pacio plastig yn eu brand eu hunain, erbyn 2023. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod y diwydiant yn ysgogi yn rhan o hyn i gyd hefyd, ac fel y soniais, cyfarfûm ag Iceland ychydig cyn y Nadolig a dysgu mwy am eu cynlluniau ym maes cynaliadwyedd. Cyfarfûm hefyd â Plastipak yn Wrecsam, sy'n defnyddio plastig PET ailgylchadwy, ac rydym wedi—. O ran pryd rydym yn edrych ar yr astudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae busnesau a rhanddeiliaid wedi chwarae rhan yn hynny, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r diwydiant manwerthu. Felly, rydym yn bwrw ymlaen â hynny ac rydym eisiau i fusnesau fod yn rhan o hynny gyda ni.