1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru? OAQ51545
Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr, mae coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ffyrdd o barhau i ddarparu cymorth ar gyfer coedwigaeth fel rhan o'r cynigion rheoli tir cynaliadwy a fydd, yn y pen draw, yn dod yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin cyfredol.
Diolch i chi am y datganiad hwnnw. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae rhanddeiliaid yn teimlo'n gyffredinol fod cyfeiriad polisi strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Coetiroedd i Gymru', yn briodol. Mewn dadl ddiweddar ar adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, soniais am bwysigrwydd cynyddu mynediad at goetiroedd a manteision cymunedol coetiroedd. Pa gynnydd a wnaed ar hyn ers adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig?
Rwy'n croesawu diddordeb gwleidyddol a phersonol pellach Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn y maes allweddol hwn, yn dilyn y ddadl a gawsom fis diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod yr ystâd goetiroedd yn ased cymdeithasol pwysig. Gwyddom fod manteision iechyd a lles yn deillio o allu cael mynediad ato, ac ymdeimlad o hunaniaeth a lle ar y lefel leol yn ogystal. Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion i'n hymgynghoriad, 'Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy', sy'n cynnwys cynigion i ddiweddaru'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynediad y cyhoedd at yr awyr agored, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb ohono ac ymateb y Llywodraeth maes o law.
Hefyd, nodaf fod cyd-Aelodau wedi nodi enghreifftiau da iawn o goetiroedd cymunedol yn ystod y ddadl. Hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad ar y pryd a dweud pe bai Aelodau'n dymuno ein gwahodd i weld hynny, fel y gallwn weld arfer gorau drosom ein hunain, gallai hynny ddylanwadu arnom yn y dyfodol gobeithio.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod pa mor bwysig yw'r diwydiant coed yn fy etholaeth, yn arbennig i fusnesau fel Clifford Jones Timber yn Rhuthun, sydd, wrth gwrs, yn gyflogwr pwysig ac yn un o'r prif gwmnïau sy'n ymwneud â choedwigaeth, os hoffech—cwmnïau sy'n ymwneud â choed—yng Nghymru. Un o'r pryderon y maent wedi'u dwyn i fy sylw, ac a gafodd sylw yng ngwaith y pwyllgor, oedd prinder y cyflenwad o bren, a'r angen i blannu mwy o goed er mwyn gwneud iawn am hynny. Pe bai ganddynt fynediad at ffynonellau mwy dibynadwy o bren, maent yn dweud wrthyf y byddent yn gallu ehangu eu busnes a chreu mwy o waith a chyfoeth yng ngogledd Cymru. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod mwy o bren ar gael i'w ddefnyddio yn y diwydiant coed?
Gallai fod yn syndod i'r Aelod fy mod yn cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd. Ni fydd hynny'n digwydd yn aml iawn. [Chwerthin.] Fel y dywedais, mae coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r pethau a ddywedodd. Mewn gwirionedd, roedd fy nghyfarfod cyntaf yn y swydd gyda Confor, lle y nodwyd materion tebyg ynglŷn â'r ffaith bod y galw yno, ond mae'n rhaid i ni gynyddu'r cyflenwad yn ogystal, ac mae'n rhaid i ni edrych ar y ffordd orau o reoli hynny hefyd, o ran creu coetiroedd. A'r broblem ar hyn o bryd yw cael mynediad at reoli tir a sut y gwnawn hynny, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno'n fanylach. Byddaf hefyd yn mynd i'r Alban ddechrau'r mis nesaf i ddysgu mwy o'r llwyddiant cymharol a gawsant yno, i weld a oes pethau y gallwn eu gwneud i greu coetiroedd newydd er mwyn cynyddu potensial cynhyrchu coetiroedd yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, rwy'n credu bod angen i ni weithio gyda rhanddeiliaid, megis y cwmni y sonioch amdano yn eich etholaeth chi, er mwyn datblygu ffyrdd o ddarparu'r cymorth hwnnw i goedwigaeth fel rhan o'r broses o lunio cynigion rheoli tir cynaliadwy, a fydd yn y pen draw, fel y dywedais, yn dod yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin cyfredol.
Simon Thomas.
Dim cwestiwn.