Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn eisiau eich holi ynglŷn â magu adar hela. Ymddengys nad yw arolygwyr iechyd anifeiliaid yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd ac mae'r cod ymarfer cyfredol ar fagu adar hela bellach yn saith mlwydd oed. Mae'n sylfaenol iawn ac nid yw'n gofyn am leiafswm gofod i'r adar gael eu magu ynddo hyd yn oed. Felly, mewn gwirionedd, maent yn aml yn cael eu magu mewn amgylchiadau gorlawn, tebyg i ffermydd batri. Nid ydym yn caniatáu i ieir fyw mewn amgylchiadau o'r fath, felly tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i adolygu'r fframwaith reoleiddio ar les adar hela a fegir at ddibenion helwriaeth, fel y'i gelwir, cyn gynted ag y bo modd.