Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn, Julie Morgan. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i Mandy Jones ein bod ar hyn o bryd yn adolygu llawer o'r codau ymarfer cyfredol. Yn sicr, roedd yna god ymarfer ar les adar hela a fegir at ddibenion helwriaeth yn 2011, er enghraifft. Felly, rydym wedi bod yn ymgynghori gyda'r diwydiant a'r sefydliadau lles, gan edrych ar y cod ymarfer penodol hwnnw. Buaswn yn hapus iawn i weld a oes angen inni newid hwnnw.
Credaf y dylem hefyd atgoffa'r rheini sy'n gyfrifol am adar hela y dylent fod yn wybodus ac yn gymwys mewn technegau hwsmonaeth a rheoli. Mae'r cod ymarfer yn datgan, pan fo adar yn cael eu cadw dan do neu mewn corlan, dylai'r gorlan fod wedi ei hadeiladu a'i rheoli'n dda ac o faint digonol i sicrhau iechyd a lles da. Fel y dywedaf, rydym yn ystyried diwygio'r codau ymarfer hyn, felly os ydym yn edrych arno ac yn credu bod angen newid rhywbeth yn y rheoliadau, dyma'r cyfle i wneud hynny.