Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ie, a diolch am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Credaf fod hwnnw'n gyfarfod defnyddiol a lwyddodd i glirio'r aer, i ryw raddau. Y broblem yw, erbyn y pwynt hwnnw, roedd gennym eisoes lawer o drigolion lleol yn protestio yn erbyn cwympo coed drwy ddringo'r coed a gwneud gweithgareddau eraill ar y safle. Felly, yn amlwg, fe aeth rhywbeth o'i le gyda'r ymgynghoriad. A allech chi weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr i asesu beth yn union a aeth o'i le, ac osgoi'r math hwn o ganlyniad mewn cynlluniau yn y dyfodol gobeithio?