Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch i chi am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn hyn. Gerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath yw cam olaf y gwaith lliniaru llifogydd, ac mae'r broses hon wedi bod ar y gweill ers pum mlynedd. Rydym wedi cwblhau'r broses gynllunio a'r broses ymgynghori, ac mae bellach wedi cyrraedd y cam gweithredu. Cafodd pryderon trigolion eu codi yn hwyr iawn yn y broses ac yn ystod y cam gweithredu olaf. Gelwais am gyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyfle cyntaf, yn y swydd, er mwyn deall y gwaith a'i effaith ar y parciau. Rwy'n deall na chafodd y pryderon eu codi gyda'r adran cyn i mi ddechrau yn y swydd.
Mae'r ymgynghoriad wedi parhau yn ystod y cyfnod hwn ac rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod, ac Aelodau eraill sydd â diddordeb, gyda rhestr lawn yr ymgynghoriad cyhoeddus, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgynghori â'r gymuned leol, cyngor Caerdydd a rhanddeiliaid drwy gydol camau cynllunio ac adeiladu'r cynllun ac maent yn cadarnhau bod hyn wedi cynnwys Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol. Deallaf hefyd fod cynghorwyr lleol wedi cymryd rhan fawr yn y cyfarfodydd briffio, wedi mynychu'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd cyhoeddus ac wedi hwyluso trafodaethau trigolion. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio gweithio'n adeiladol drwy gydol y cynllun i wella'r cynllun, i geisio adlewyrchu barn trigolion, a gwn fod hynny'n rhywbeth sy'n parhau, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfarfod â phreswylwyr yn awr i weld a ellir datrys y mater ymhellach.FootnoteLink