1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â datblygu cynllun llifogydd y Rhath yng Nghaerdydd? OAQ51572
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun. Cyfarfûm â'u swyddogion a'u cynrychiolwyr etholedig, yn eich cynnwys chi, ar 9 Ionawr i drafod y cynllun hwn a phryderon trigolion ymhellach. Yn ystod y cyfarfod, eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru y rhesymau dros y gwaith a'r opsiynau roeddent wedi eu hystyried ar gyfer lliniaru perygl llifogydd.
Ie, a diolch am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Credaf fod hwnnw'n gyfarfod defnyddiol a lwyddodd i glirio'r aer, i ryw raddau. Y broblem yw, erbyn y pwynt hwnnw, roedd gennym eisoes lawer o drigolion lleol yn protestio yn erbyn cwympo coed drwy ddringo'r coed a gwneud gweithgareddau eraill ar y safle. Felly, yn amlwg, fe aeth rhywbeth o'i le gyda'r ymgynghoriad. A allech chi weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr i asesu beth yn union a aeth o'i le, ac osgoi'r math hwn o ganlyniad mewn cynlluniau yn y dyfodol gobeithio?
Diolch i chi am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn hyn. Gerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath yw cam olaf y gwaith lliniaru llifogydd, ac mae'r broses hon wedi bod ar y gweill ers pum mlynedd. Rydym wedi cwblhau'r broses gynllunio a'r broses ymgynghori, ac mae bellach wedi cyrraedd y cam gweithredu. Cafodd pryderon trigolion eu codi yn hwyr iawn yn y broses ac yn ystod y cam gweithredu olaf. Gelwais am gyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyfle cyntaf, yn y swydd, er mwyn deall y gwaith a'i effaith ar y parciau. Rwy'n deall na chafodd y pryderon eu codi gyda'r adran cyn i mi ddechrau yn y swydd.
Mae'r ymgynghoriad wedi parhau yn ystod y cyfnod hwn ac rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod, ac Aelodau eraill sydd â diddordeb, gyda rhestr lawn yr ymgynghoriad cyhoeddus, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgynghori â'r gymuned leol, cyngor Caerdydd a rhanddeiliaid drwy gydol camau cynllunio ac adeiladu'r cynllun ac maent yn cadarnhau bod hyn wedi cynnwys Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol. Deallaf hefyd fod cynghorwyr lleol wedi cymryd rhan fawr yn y cyfarfodydd briffio, wedi mynychu'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd cyhoeddus ac wedi hwyluso trafodaethau trigolion. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio gweithio'n adeiladol drwy gydol y cynllun i wella'r cynllun, i geisio adlewyrchu barn trigolion, a gwn fod hynny'n rhywbeth sy'n parhau, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfarfod â phreswylwyr yn awr i weld a ellir datrys y mater ymhellach.FootnoteLink
A gaf fi hefyd ddiolch i chi am drefnu'r cyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Aelodau sydd â diddordeb? Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cynnydd mewn perthynas â thystiolaeth wyddonol a thechnegol. Credaf mai un o'r pethau a allai fod wedi lleddfu pryderon y protestwyr fyddai pe bai gennym ganopi coed mwy helaeth eisoes. Mae'n broblem, wedyn, pan fo'n rhaid i ni, yn anffodus, weld coed yn cael eu torri, naill ai oherwydd presenoldeb clefyd neu'r bygythiad ohono, neu o ganlyniad i lwybr nant newydd, er enghraifft. Felly, a allem gynyddu'r coetiroedd sydd gennym mewn dinasoedd, os gwelwch yn dda?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf. Yn yr achos hwn, mae mwy o goed yn cael eu hailblannu na sy'n cael eu cwympo. Rwy'n cydnabod cryfder yr emosiynau a'r teimladau sydd gan bobl tuag at eu parciau a'u hardaloedd hamdden lleol. Fel rhan o'n strategaeth creu coetiroedd, rwy'n credu bod angen i ni edrych eto, efallai, ar sut rydym yn creu canolfannau trefol a pharciau, gan gadw creu canopi coed mewn cof hefyd.