Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Ionawr 2018.
A gaf fi hefyd ddiolch i chi am drefnu'r cyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Aelodau sydd â diddordeb? Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cynnydd mewn perthynas â thystiolaeth wyddonol a thechnegol. Credaf mai un o'r pethau a allai fod wedi lleddfu pryderon y protestwyr fyddai pe bai gennym ganopi coed mwy helaeth eisoes. Mae'n broblem, wedyn, pan fo'n rhaid i ni, yn anffodus, weld coed yn cael eu torri, naill ai oherwydd presenoldeb clefyd neu'r bygythiad ohono, neu o ganlyniad i lwybr nant newydd, er enghraifft. Felly, a allem gynyddu'r coetiroedd sydd gennym mewn dinasoedd, os gwelwch yn dda?