Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf. Yn yr achos hwn, mae mwy o goed yn cael eu hailblannu na sy'n cael eu cwympo. Rwy'n cydnabod cryfder yr emosiynau a'r teimladau sydd gan bobl tuag at eu parciau a'u hardaloedd hamdden lleol. Fel rhan o'n strategaeth creu coetiroedd, rwy'n credu bod angen i ni edrych eto, efallai, ar sut rydym yn creu canolfannau trefol a pharciau, gan gadw creu canopi coed mewn cof hefyd.