9. Dadl Fer: Mae'r robotiaid yn dod — mae angen i Gymru gael cynllun ar gyfer awtomateiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 6:00, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog ildio? Credaf eich bod yn gysurol, yn gymwys, yn ddyfal ac yn drylwyr iawn, ond credaf mai'r hyn a gefais gan Lee Waters oedd cyflymder newid. Cawsom 10,000 o flynyddoedd o'r chwyldro amaethyddol, 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol. Mae hyn oll o fewn cenhedlaeth bron, y modd y cawsom ein trawsnewid gan y chwyldro mewn cyfrifiadura, a ddechreuodd yn yr ail ryfel byd ond sydd wedi cyrraedd dyfnder eithriadol yn y 10 neu'r 20 mlynedd diwethaf. Mae angen meddwl dwfn arnom yn Llywodraeth Cymru ac awgrymodd uned yn swyddfa'r Prif Weinidog. Wel, pam na ddylid cael hynny?