Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n cyd-fynd â llefarydd Plaid Cymru a'i dadansoddiad hi—efallai nid pob rhan ohono fe, ond byrdwn ei neges hi. Rwy'n deall hynny. Ond, a gaf fi ddweud hyn? Mae'n bwysig ein bod ni'n ffeindio cydbwysedd. Dyma'r drafodaeth yr oeddwn yn ei gael y bore yma, fel mae'n digwydd, dim jest gydag arweinydd Torfaen, sydd wedi cael ei drafod yn barod, ond hefyd gydag arweinydd Caerffili amboutu'r tensiwn sydd rhwng cael gwasanaethau i ddarparu y lefel sy'n strategol, ond hefyd sicrhau bod sut rŷm ni'n delifro gwasanaethau yn cydnabod pwysigrwydd lleoliad, ac wedyn, pwysigrwydd cydweithio gyda phobl sy'n derbyn gwasanaethau. Felly, mae yna dyndra yn fanna ambell waith, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gyda ni wasanaethau sy'n cael eu delifro ar lefel a fydd yn strategol, yn robust, a fydd yn cynnal gwasanaethau i'r safon uchaf posibl, ond hefyd sydd yn atebol ac yn gallu ymateb i anghenion lleol iawn, iawn, iawn. Rydw i, ar hyn o bryd, yn ystyried ble'r ydym ni gyda'n polisi ni. Rydym ni'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cyllid wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau gweledigaeth newydd, gwahanol ar gyfer llywodraeth leol. Byddaf i nawr yn defnyddio'r gwaith mae'r Ysgrifennydd wedi ei wneud fel sylfaen i symud ymlaen i sicrhau ein bod ni'n gallu sicrhau'r math o wasanaethau o ansawdd uchel rydym ni i gyd eisiau eu gweld, a sut rydym ni'n sicrhau bod hynny yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir.