Diwygio Lles yn Nhorfaen

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:16, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod newidiadau lles 2010-11 a 2015-16 wedi bod yn ergyd galed i Gymoedd de Cymru. Mae hyn yn cynnwys Torfaen, sef y seithfed ardal awdurdod lleol a effeithiwyd waethaf yng Nghymru, gyda cholledion incwm cyfartalog yn uwch na'r rhai ar gyfer Cymru yn gyffredinol. O ran y newidiadau lles a gyflwynwyd ers 2015-16, a'r rhai sy'n parhau i gael eu cyflwyno dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos y bydd Torfaen yn cael ergyd galed eto.