Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch. Ar ôl y chwe mis cyntaf o wasanaeth llawn y credyd cynhwysol yn Nhorfaen, mae pennaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, Richard Davies, wedi dweud ei fod yn teimlo bod ethos ei rôl wedi newid o dalu budd-daliadau a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo i sicrhau bod gan bobl fwyd ar y bwrdd. Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd o welliant, a'r wythnos diwethaf, roedd cadeirydd Tai Cymunedol Bron Afon yn darogan y bydd nifer y tenantiaid sydd wedi cael eu niweidio gan gredyd cynhwysol yn codi eto, ac mae lefel yr ôl-ddyledion rhent a achosir eisoes yn peri pryder mawr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo trigolion mewn cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd o dan y credyd cynhwysol, ac yn benodol, pa gamau y gallwn eu cymryd i sicrhau nad yw'r problemau gydag ôl-ddyledion rhent yn arwain at gynnydd yn nifer y rhai sy'n cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref?