Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 17 Ionawr 2018.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch a diolch i'r cynghorwyr tref a chymuned ymroddgar sy'n gwneud cymaint ar gyfer eu cyd-ddinasyddion yn fy etholaeth ac mewn sawl rhan o Gymru? I roi enghraifft, mae cynghorau tref y Bont-faen a'r Barri yn hyrwyddo eu trefi fel trefi masnach deg, ac mae'r Barri yn hyrwyddo eu tref fel y dref gyntaf yng Nghymru i fod yn dref cyflog byw gwirioneddol.