2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amserlen ar gyfer adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru? OAQ51544
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, fel y'i diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i'r panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol gynnal ymgynghoriad wyth wythnos ar ei adroddiad drafft a chynhyrchu ei adroddiad blynyddol terfynol erbyn 28 Chwefror. Yna, bydd ei ddyfarniadau yn dod i rym yn y flwyddyn ariannol nesaf.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a ymatebodd i lythyr ar y cwestiwn hwn ychydig ddyddiau yn ôl yn unig? Efallai bod eich ateb yn methu'r pwynt i raddau, gan fod hyn yn ymwneud ag amseriad adroddiad panel annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig. Mae'n rhaid i gynghorau lleol, wrth gwrs, bennu eu cyllidebau erbyn canol mis Ionawr. Golyga hynny naill ai fod yn rhaid i'r cynghorau ddyfalu beth fydd yn yr adroddiad terfynol, neu ddarparu ar gyfer rhywbeth na fydd yn digwydd o gwbl o bosibl. A gaf fi ofyn i chi ystyried gofyn i'r panel ddechrau eu hymgynghoriad yn gynharach ac i gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol erbyn diwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn? Byddai hynny, wrth gwrs, yn caniatáu cynghorau i ystyried penderfyniadau yn ystod eu proses gyllidebu.
Rwy'n ymwybodol o'r pryderon y mae Cyngor Tref y Trallwng, rwy'n credu, wedi eu codi gyda'r Aelod. Byddaf yn ystyried y pwyntiau a godir ganddo, ond dywedaf wrtho hefyd fod canllawiau eisoes ar gael i gynghorau tref a chymuned ar sut y maent yn rheoli eu harian. Mae gennym ganllawiau i ymarferwyr, a gyhoeddwyd gan Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ac maent wedi cael eu hysgrifennu yn benodol ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Hoffwn awgrymu yn garedig ei fod yn gofyn i'r cyngor tref yn y Trallwng ystyried y materion sy'n cael sylw yn y canllawiau hynny, a gobeithiaf y bydd hynny'n datrys y materion y maent wedi eu dwyn i'w sylw.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch a diolch i'r cynghorwyr tref a chymuned ymroddgar sy'n gwneud cymaint ar gyfer eu cyd-ddinasyddion yn fy etholaeth ac mewn sawl rhan o Gymru? I roi enghraifft, mae cynghorau tref y Bont-faen a'r Barri yn hyrwyddo eu trefi fel trefi masnach deg, ac mae'r Barri yn hyrwyddo eu tref fel y dref gyntaf yng Nghymru i fod yn dref cyflog byw gwirioneddol.
Gwnaf, yn sicr. Credaf fod yr Aelod yn rhoi enghreifftiau gwych iawn o'r gwahaniaeth y gall cynghorau tref a chymuned ei wneud. Gan i mi gael fy magu yn Nhredegar, gwn fod Cyngor Tref Tredegar bob amser wedi bod yn rym a ddôi â daioni i'r dref, a heddiw, credaf ei fod yn fodel o'r hyn y gall cyngor tref ei gyflawni ar gyfer y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu. Mae'r enghreifftiau a roddodd yr Aelod ym Mro Morgannwg hefyd yn darparu enghreifftiau eraill o sut y gall cynghorau tref a chymuned chwarae rôl hanfodol mewn perthynas â lles a bywoliaeth cymunedau. A gaf fi ddweud hyn: mae gennym grŵp yn edrych ar hyn o bryd ar rôl cynghorau tref a chymuned yn y dyfodol? Yr hyn yr hoffwn ei weld yw sut y gallwn gryfhau rôl y cynghorau tref a chymuned. Credaf fod llawer o bryderon ymhlith etholwyr ynglŷn â sut y mae ein trefi'n datblygu a sut y rheolir newid mewn llawer o'n trefi bach ledled Cymru gyfan. Teimlaf a chredaf fod potensial pwysig iawn gan gynghorau tref i gyflawni rôl o fewn trefi a chymunedau ledled y wlad, ac yn sicr, buaswn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer cryfhau eu rolau yn y dyfodol.