Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n ymwybodol o'r pryderon y mae Cyngor Tref y Trallwng, rwy'n credu, wedi eu codi gyda'r Aelod. Byddaf yn ystyried y pwyntiau a godir ganddo, ond dywedaf wrtho hefyd fod canllawiau eisoes ar gael i gynghorau tref a chymuned ar sut y maent yn rheoli eu harian. Mae gennym ganllawiau i ymarferwyr, a gyhoeddwyd gan Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ac maent wedi cael eu hysgrifennu yn benodol ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Hoffwn awgrymu yn garedig ei fod yn gofyn i'r cyngor tref yn y Trallwng ystyried y materion sy'n cael sylw yn y canllawiau hynny, a gobeithiaf y bydd hynny'n datrys y materion y maent wedi eu dwyn i'w sylw.