Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 17 Ionawr 2018.
Nid wyf yn siŵr a yw'n gymorth i'r drafodaeth ar ddemocratiaeth leol y bu Siân Gwenllian yn ei hybu'n gynharach yn y sesiwn hon os yw Gweinidogion yn beirniadu ac yn gwneud sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau lleol. Rwy'n credu mewn llywodraeth leol. Rwy'n credu mewn gwneud penderfyniadau yn lleol. Rwy'n credu mewn democratiaeth leol. A golyga hynny y dylai fod gan arweinwyr gwleidyddol lleol sy'n atebol yn ddemocrataidd hawl i wneud penderfyniadau y byddaf efallai yn anghytuno â hwy, y bydd Aelodau eraill yma efallai yn anghytuno â hwy, y bydd Aelodau sy'n byw yn yr ardal honno efallai yn anghytuno â hwy, ond mae ganddynt hawl i wneud y penderfyniadau hynny ac yna, mae'n rhaid iddynt ddadlau eu hachos gerbron yr etholwyr lleol, a fydd yn eu dwyn i gyfrif am y penderfyniadau hynny.