Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:59, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gobeithiaf gyfarfod cyn bo hir â swyddogion ac aelodau cabinet Sir Benfro i drafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Sir Benfro wedi cynnal dadl gyhoeddus ynghylch codiadau yn y dreth gyngor ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a gyhoeddwyd. Pa neges a fyddai gennych ar gyfer Cyngor Sir Penfro a hefyd ar gyfer y trethdalwyr yno os oes cyfradd sydd ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn cael ei gosod?