2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus lleol yn Sir Benfro? OAQ51534
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl yn Sir Benfro a ledled Cymru. Mae eu gallu a'u gwydnwch yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol mewn cyfnod heriol yn flaenoriaeth i mi a'r Llywodraeth hon.
Wrth gwrs, un ffordd o sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus lleol yn wirioneddol leol yw sicrhau nad yw gwasanaethau yn cael eu canoli a bod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn wirioneddol leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi felly na ddylid uno awdurdodau lleol fel Sir Benfro, gan fod gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cael eu darparu orau gan awdurdodau lleol unigol sy'n atebol i bobl leol, ac mai'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno yw sicrhau ein bod yn gweld cydweithio gwirioneddol ystyrlon rhwng ein hawdurdodau lleol?
Gobeithiaf y byddwn yn gweld cydweithio gwirioneddol ystyrlon ymhlith awdurdodau yn y dyfodol. Mae angen inni allu darparu gwasanaethau ar raddfa sy'n gadarn ac sy'n cyflawni rhagoriaeth o ran darparu'r gwasanaethau ac ar gyfer y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Bydd y modd rydym yn darparu gwasanaethau yn wahanol mewn rhan wledig o orllewin Cymru, a gynrychiolir gan yr Aelod yng ngogledd Sir Benfro, i'r hyn a fydd yng nghanol Caerdydd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau ein bod yn gallu ystyried sut rydym yn strwythuro llywodraeth leol yn y dyfodol i'n galluogi yn y ffordd orau i ddarparu'r gwasanaethau a ddisgrifiodd yr Aelod, ond hefyd yr atebolrwydd rydym eisoes wedi'i drafod y prynhawn yma. Rwy'n awyddus i weld gwasanaethau effeithiol a democratiaeth wreiddiedig mewn gwahanol rannau o'r wlad, sy'n ddadl ddemocrataidd a chyfoethog ynghylch dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Byddaf yn gwneud datganiadau ar hyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Gobeithiaf gyfarfod cyn bo hir â swyddogion ac aelodau cabinet Sir Benfro i drafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Sir Benfro wedi cynnal dadl gyhoeddus ynghylch codiadau yn y dreth gyngor ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a gyhoeddwyd. Pa neges a fyddai gennych ar gyfer Cyngor Sir Penfro a hefyd ar gyfer y trethdalwyr yno os oes cyfradd sydd ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn cael ei gosod?
Nid wyf yn siŵr a yw'n gymorth i'r drafodaeth ar ddemocratiaeth leol y bu Siân Gwenllian yn ei hybu'n gynharach yn y sesiwn hon os yw Gweinidogion yn beirniadu ac yn gwneud sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau lleol. Rwy'n credu mewn llywodraeth leol. Rwy'n credu mewn gwneud penderfyniadau yn lleol. Rwy'n credu mewn democratiaeth leol. A golyga hynny y dylai fod gan arweinwyr gwleidyddol lleol sy'n atebol yn ddemocrataidd hawl i wneud penderfyniadau y byddaf efallai yn anghytuno â hwy, y bydd Aelodau eraill yma efallai yn anghytuno â hwy, y bydd Aelodau sy'n byw yn yr ardal honno efallai yn anghytuno â hwy, ond mae ganddynt hawl i wneud y penderfyniadau hynny ac yna, mae'n rhaid iddynt ddadlau eu hachos gerbron yr etholwyr lleol, a fydd yn eu dwyn i gyfrif am y penderfyniadau hynny.
Mae'r dreth gyngor yn Sir Benfro wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru yn gyson. Pennir y dreth gyngor gan yr holl gynghorwyr, nid gan y weithrediaeth yn unig, yn yr un ffordd ag y mae'r swm o arian a werir yma a'r swm o arian a godir yma yn cael ei osod gan holl Aelodau'r Cynulliad. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod codiadau yn y dreth gyngor yn fater ar gyfer cynghorwyr etholedig, a fydd yn atebol i etholwyr lleol am eu penderfyniadau?
Pleser o'r mwyaf yw gallu cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Bu i mi anghytuno ag ef unwaith ar faterion llywodraeth leol, ni fyddaf byth yn gwneud hynny eto, ac rwy'n falch iawn nad oes yn rhaid i mi wneud hynny y prynhawn yma.