Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:58, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gobeithiaf y byddwn yn gweld cydweithio gwirioneddol ystyrlon ymhlith awdurdodau yn y dyfodol. Mae angen inni allu darparu gwasanaethau ar raddfa sy'n gadarn ac sy'n cyflawni rhagoriaeth o ran darparu'r gwasanaethau ac ar gyfer y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Bydd y modd rydym yn darparu gwasanaethau yn wahanol mewn rhan wledig o orllewin Cymru, a gynrychiolir gan yr Aelod yng ngogledd Sir Benfro, i'r hyn a fydd yng nghanol Caerdydd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau ein bod yn gallu ystyried sut rydym yn strwythuro llywodraeth leol yn y dyfodol i'n galluogi yn y ffordd orau i ddarparu'r gwasanaethau a ddisgrifiodd yr Aelod, ond hefyd yr atebolrwydd rydym eisoes wedi'i drafod y prynhawn yma. Rwy'n awyddus i weld gwasanaethau effeithiol a democratiaeth wreiddiedig mewn gwahanol rannau o'r wlad, sy'n ddadl ddemocrataidd a chyfoethog ynghylch dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Byddaf yn gwneud datganiadau ar hyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.