Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 17 Ionawr 2018.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a ymatebodd i lythyr ar y cwestiwn hwn ychydig ddyddiau yn ôl yn unig? Efallai bod eich ateb yn methu'r pwynt i raddau, gan fod hyn yn ymwneud ag amseriad adroddiad panel annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig. Mae'n rhaid i gynghorau lleol, wrth gwrs, bennu eu cyllidebau erbyn canol mis Ionawr. Golyga hynny naill ai fod yn rhaid i'r cynghorau ddyfalu beth fydd yn yr adroddiad terfynol, neu ddarparu ar gyfer rhywbeth na fydd yn digwydd o gwbl o bosibl. A gaf fi ofyn i chi ystyried gofyn i'r panel ddechrau eu hymgynghoriad yn gynharach ac i gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol erbyn diwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn? Byddai hynny, wrth gwrs, yn caniatáu cynghorau i ystyried penderfyniadau yn ystod eu proses gyllidebu.