Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 17 Ionawr 2018.
Fel aelod o'r pwyllgor, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad i raddau helaeth wrth i ni barhau i ddatblygu a chryfhau'r clystyrau gofal sylfaenol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yr argraff bennaf a wnaed arnaf o'r dystiolaeth a gymerwyd gennym yn yr ymchwiliad hwn yw ei bod hi'n rhy fuan, i lawer o bobl, i wneud penderfyniad gwybodus neu ffurfio barn ddeallus ar lwyddiant cyffredinol y clystyrau. Felly, credaf y bydd gwerthuso gweithgaredd yn y clystyrau presennol a chlystyrau sy'n datblygu yn hanfodol bwysig os ydym yn mynd i gyflwyno arfer da ar draws Cymru.
Felly, heddiw, fodd bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw argymhellion penodol, hoffwn wneud tri phwynt yn unig. Yn gyntaf, buddsoddi ein harian i helpu i gyflawni newid sydd ei angen yn ddirfawr a sicrhau ein bod yn rhannu arferion da. Yn ail, buddsoddi ein harian i helpu pobl i wneud y dewis cywir am eu gofal, gan adeiladu ar waith yr ymgyrch Dewis Doeth y cyfeiriodd Dai Lloyd ati eisoes a chyflawni newid mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Ac yn drydydd, y modd y mae'r gwaith ar glystyrau gofal sylfaenol yn un rhan yn unig o'r cyfrifoldeb enfawr ar y Cynulliad cyfan yng ngoleuni'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol.
Felly, yn gyntaf, hoffwn gysylltu rôl gynyddol clystyrau gofal sylfaenol â'r dasg hanfodol o wario'r gyllideb iechyd yn ddoeth. Credaf fod llawer o dystiolaeth o blaid gwaith clwstwr, er nad yw hynny'n wir am werthuso ar hyn o bryd, a'r dasg sy'n wynebu GIG Cymru yw sicrhau bod yr enghreifftiau o arfer gorau yn cael eu cyflwyno'n gyflym ac yn effeithiol wrth i'r modelau clwstwr aeddfedu. Yr her sy'n wynebu pob un ohonom, waeth beth yw ein lliw gwleidyddol, yw sicrhau bod yr arian a fuddsoddwn yn GIG Cymru yn helpu i wneud y newidiadau go iawn y gwyddom eu bod yn angenrheidiol o ran y modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Bellach mae angen inni sicrhau bod clystyrau'n gallu dylanwadu ar gynlluniau tymor canolig integredig a bod y cynlluniau hynny'n caniatáu ar gyfer yr arloesedd y bwriadwyd i arian clwstwr ei ddarparu. Rwy'n gadarn o'r farn na allwn fforddio parhau i fuddsoddi mewn modelau gofal nad ydynt yn ymateb i'r anghenion sy'n newid yn barhaol. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod angen i ni symud gwasanaethau i'r lleoliad sylfaenol ac os caiff ei wneud yn iawn, gall clystyrau fod yn ffordd effeithiol o wneud hyn, a cheir enghreifftiau ardderchog o arfer da eisoes.
Yn ardal fy mwrdd iechyd yng Nghwm Taf, er enghraifft, rydym wedi gweld llwyddiant y prosiect Mae Dannedd Babi YN Bwysig ym Merthyr Tudful, sy'n sicrhau bod plant dan ddwy a phum mlwydd oed yn cael mynediad cynnar at ofal deintyddol drwy weithwyr cymorth gofal iechyd a therapyddion deintyddol. Mae swyddogion cymorth meddygon teulu yn helpu meddygon teulu i ganolbwyntio ar yr hyn y gallant ei wneud, gan helpu pobl ag anghenion gofal cymdeithasol a chydgysylltu gofal, ac mae'r clwstwr yn arwain gyda phrosiectau TGCh fel meddyg teulu ar y we, sy'n darparu gwasanaeth brysbennu ar-lein.
Mae Cwm Taf hefyd wedi treialu prosiect clwstwr ward rithwir yn Aberdâr—deallaf eu bod i gyflwyno un ym Merthyr hefyd yn fuan—lle roedd tîm gofal sylfaenol amlddisgyblaethol yn targedu 150 o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty'n fynych, pobl oedrannus eiddil yn bennaf, drwy fynd ati'n rhagweithiol i ymweld â hwy yn eu cartrefi eu hunain, i gynnig cymorth drwy ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr. Dros gyfnod o wyth mis, mae hyn wedi arwain at 60 y cant yn llai o apwyntiadau meddygon teulu, 80 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty, a 90 y cant yn llai o alwadau i wasanaethau tu allan i oriau. Mae hyn wedi rhoi amser i feddygon teulu ymdrin â materion mwy cymhleth yn eu meddygfeydd.
Felly, mae gwrthsefyll newid yn y modd y darparir gwasanaethau, fel yr enghreifftiau rwyf newydd eu rhoi, yn peri i'r sefyllfa droi yn ei hunfan, ac nid system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n troi yn ei hunfan sydd ei hangen ar bobl Cymru. Felly, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru sy'n cadarnhau'r ymrwymiad i ddarparu gweledigaeth gliriach o waith clystyrau gofal sylfaenol.
Mae hyn yn fy arwain at fy ail bwynt. Fel y dengys y pwysau presennol ar y system, rhaid i gam nesaf y gwaith ar glystyrau gofal sylfaenol helpu i gryfhau'r gwaith pwysig sydd wrth wraidd yr ymgyrch Dewis Doeth. Nid oes amheuaeth, fel defnyddwyr y GIG, fod rhaid inni gael ein hatgoffa'n barhaus ynglŷn â'r ffordd y gall ein dewisiadau personol effeithio ar gadernid y system gyfan. Mae cryfhau gwasanaethau mewn clystyrau gofal sylfaenol, gan sicrhau felly nad oes angen i bobl ymweld ag ysbyty i gael triniaeth fel mater o drefn, yn rhan o'r strategaeth gyffredinol. Efallai fod angen inni symud yn ôl at ddefnyddio terminoleg lawn 'damweiniau ac achosion brys' i atgyfnerthu'r hyn y mae a wnelo gwasanaeth ysbytai mewn gwirionedd.
Yn olaf, a fy nhrydydd pwynt, un rhan yn unig yw'r adroddiad hwn ar glystyrau gofal sylfaenol o'r hyn y credaf y bydd yn flwyddyn arwyddocaol i'r GIG yng Nghymru, gan y bydd angen inni hefyd weithio'n galetach byth wrth i ni dderbyn a rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r argymhellion yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol a drafodwyd gennym ddoe. Mae gennym lawer iawn o waith pwysig o'n blaenau.