Seilwaith yng Ngogledd Cymru

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella'r seilwaith yng ngogledd Cymru? OAQ51601

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:30, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn rhan o gynllun cytbwys a chynaliadwy ar gyfer buddsoddiad mewn trafnidiaeth ledled Cymru.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un peth y mae llawer o bobl yn y gogledd yn clochdar yn eu gylch yw'r gwahaniaeth rhwng y buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth yn y de a'r hyn a welir yn y gogledd. Rydych chi'n gwario £1.4 biliwn ar ffordd liniaru i'r M4, £400 miliwn yn fwy nag yr oeddech chi'n ei ddisgwyl ddim yn bell iawn yn ôl. Cyhoeddwyd £180 miliwn gennych ar gyfer y prosiect metro canolog yng Nghaerdydd, ac mae hwnnw o fewn, wrth gwrs, pecyn gwerth £2 biliwn ar gyfer system metro de Cymru. Nawr, nid wyf i'n bychanu'r buddsoddiadau hynny, ond pryd mae'r gogledd yn mynd i gael ei gyfran deg? Mae gennym ni seilwaith eithriadol o wael ar yr A55, lle ceir tagfeydd rheolaidd, mae gennym ni broblemau gyda'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mae mynediad at fand eang, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn gwbl annerbyniol.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r A55, wrth gwrs, yn llwybr strategol allweddol yn y gogledd. Y llynedd, cwblhawyd rhaglen £42 miliwn gennym i sicrhau bod twneli Conwy, Penmaen-bach a Phen-y-clip yn cyd-fynd â'r safonau presennol. Rydym ni hefyd yn buddsoddi tua £40 miliwn i uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, a £200 miliwn yg nghoridor Glannau Dyfrdwy. Hefyd, cwblhawyd y cynllun draenio rhwng Abergwyngregyn â Thai'r Meibion dros yr haf, a chyhoeddwyd y gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol ar brif gynllun gwella Abergwyngregyn i Dai'r Meibion yr A55 gennym. Nawr, mae gwaith arall yn y gogledd yn cynnwys cyflymu'r dyddiad cwblhau ar gyfer trydydd croesfan dros afon Menai, a allai agor yn 2022 erbyn hyn, a datblygu ffordd osgoi arfaethedig Caernarfon a Bontnewydd, sy'n cynrychioli mwy o fuddsoddiad o dros £125 miliwn yn y rhwydwaith—ac i'r ffyrdd yn unig mae hynny.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:32, 23 Ionawr 2018

Rwy'n edrych ar fap o fy mlaen i yn y fan hyn o'r pwyntiau gwefru ceir trydan ar draws Prydain. Ac rydym yn gweld ar draws gogledd Cymru mor dila ydy'r ddarpariaeth o fannau pwyntiau gwefru cyflym. Rydw i'n edrych ymlaen am y chwyldro mewn defnydd o geir trydan, ond nid ydy'r chwyldro yna am allu digwydd heb fod y Llywodraeth wirioneddol yn dangos uchelgais ac yn rhoi strategaeth mewn lle er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi'r isadeiledd ar gyfer y chwyldro yna. Lle mae'r arwyddion gan y Llywodraeth eich bod chi'n cymryd hyn o ddifrif?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Wel, rydym ni yn, wrth gwrs, ac mae'n rhaid sicrhau bod y strwythur yna. Un o'r problemau yw'r ffaith bod siẁd amrywiaeth ynglŷn â'r gwahanol ffyrdd y mae ceir yn gallu cael eu tsiarjo. Mae yna o leiaf dri gwahanol soced y gallaf i feddwl amdanyn nhw, fel un sy'n dreifo hybrid fy hunan. Beth sydd ei eisiau yw i'r cynhyrchwyr ystyried ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau taw dim ond un modd o tsiarjo sydd ar gael, a bydd hynny'n rhwyddach wedyn i Lywodraeth sicrhau ein bod ni'n gallu helpu i weld mwy o lefydd tsiarjo yn y pen draw. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs: beth sy'n dod yn gyntaf—ceir neu'r rhwydwaith? Rydym ni'n moyn sicrhau bod rhwydwaith ar draws Cymru, ac mae hwn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y Gweinidog.