Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Ionawr 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae dogfennau a ddatgelwyd yn awgrymu bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn ystyried dyfodol ysbytai yn ei ardal. Nawr, dim ond rhyw dair blynedd sydd ers yr ad-drefnu diwethaf, a oedd i fod i gynnig ateb hirdymor a chynaliadwy, ac eto mae pobl yn wynebu mwy o gynigion bellach, gan gynnwys cau ysbytai. A oedd y Bwrdd Iechyd yn bod yn onest am ei ad-drefnu diwethaf?