1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae dogfennau a ddatgelwyd yn awgrymu bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn ystyried dyfodol ysbytai yn ei ardal. Nawr, dim ond rhyw dair blynedd sydd ers yr ad-drefnu diwethaf, a oedd i fod i gynnig ateb hirdymor a chynaliadwy, ac eto mae pobl yn wynebu mwy o gynigion bellach, gan gynnwys cau ysbytai. A oedd y Bwrdd Iechyd yn bod yn onest am ei ad-drefnu diwethaf?
Wel, gallai'r Bwrdd Iechyd ei hun ateb hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam nad oedden nhw'n bod yn onest. Ceir heriau bob amser. Mae'r arolwg seneddol, y mae'r holl bleidiau wedi ymrwymo iddo, wedi dweud y bydd penderfyniadau anodd yn y dyfodol. Nawr, fel Llywodraeth, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn. Nid dyma ein polisi. Mae'r rhain yn ddewisiadau y mae'r bwrdd iechyd wedi bwrw ymlaen â nhw. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw bod beth bynnag y mae'r bwrdd iechyd yn ei ystyried yn cael ei ddatblygu gydag ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Wel, Prif Weinidog, mae'n rhaid i chi fod yn gyfrifol ac yn atebol am iechyd yn y pen draw. Mae iechyd yn gwbl ddatganoledig ac yn gyfrifol i chi. Nawr, mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw eisiau i bobl gael eu trin yn agosach i'w cartrefi ac yn y gymuned, ond nid yw'n ymddangos mai dyna y mae'r cynigion yn y ddogfen a ddatgelwyd yn ymwneud ag ef. Un agwedd a allai ategu gwasanaethau ysbyty presennol yw creu canolfannau cymunedol â gwelyau, neu'n fwy cywir efallai, 'Ni allaf gredu nad yw'n ysbyty cymuned'. Roedd cau ysbytai cymuned yn bolisi Llywodraeth Lafur ar un adeg, ac mae wedi arwain at leihau nifer y gwelyau, ac mae wedi bod yn gamgymeriad mawr. Ni ddylid defnyddio gwasanaethau cymunedol fel esgus i gau ysbytai cyffredinol dosbarth. Gyda defnydd o welyau ar draws y GIG yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant am y saith mlynedd diwethaf, a ydych chi'n derbyn bod y GIG angen mwy o welyau i'w alluogi i ymdopi â phwysau ychwanegol y gaeaf?
Rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio nid yn unig ar y mater o welyau, ond ar y mater o gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n golygu, os edrychwch chi ar oedi wrth drosglwyddo gofal, bod ein ffigurau yn llawer gwell o fis i fis, ac wedi gwella'n fawr ers y llynedd. Nid ydym ni eisiau pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd angen iddyn nhw fod yno.
Ond, wrth gwrs, y pwynt arall y mae'n rhaid i ni ei ddeall yw ein bod ni angen GIG sy'n gynaliadwy. Ymrwymodd yr holl bleidiau i hynny yn rhan o'r adolygiad seneddol. Mae'n aruthrol o bwysig ein bod ni, wrth gwrs, yn cytuno â'r egwyddor y dylai pobl gael eu trin mor agos i gartref â phosibl, ond mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y dyfodol. Nawr, mae'r cynigion a wnaed gan Hywel Dda i Hywel Dda eu hystyried ar hyn o bryd, i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae'n wir dweud efallai y daw adeg pan fydd angen penderfyniad gan y Llywodraeth, ond nid yw'r adeg honno wedi cyrraedd eto.
Y pwynt yw, Prif Weinidog, bod pobl angen system iechyd integredig a gwasanaethau cymunedol sy'n ategu ysbytai cyffredinol dosbarth, nid eu disodli. Mae pobl yn y gorllewin yn dal yn mynd i fod angen triniaeth frys. Bydd dal i fod angen llawdriniaeth arnynt, byddant yn dal i fod angen aros dros nos ac adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi. Nawr, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cadw'r gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer ein cymunedau gwledig. Mae hynny'n golygu adran damweiniau ac achosion brys i Fronglais a Glangwili, a chadw Llwynhelyg ar agor.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn eich rhybuddio chi ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn am yr angen i hyfforddi mwy o feddygon. A wnewch chi weithio gydag ysgol feddygol Abertawe ar ei chynigion i gynyddu nifer y meddygon yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? A allwch chi sicrhau pobl allan yna, a'r Aelodau yma heddiw, na fyddwch chi'n cadarnhau unrhyw benderfyniad i gael gwared ar adrannau damweiniau ac achosion brys o Bronglais na Glangwili? A wnewch chi hefyd gadarnhau na fydd Llywodraeth Lafur yn cymeradwyo unrhyw benderfyniad i gau ysbyty Llwynhelyg na chael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys o'r ysbyty hwnnw?
Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n ddibwrpas cael unrhyw fath o ymgynghoriad. Nawr, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn ar hyn o bryd, ac mae rhesymau dros hynny. [Torri ar draws.] Mae Simon Thomas yn gwybod hyn yn iawn: y rheswm pam na allwn ni gynnig barn ar hyn o bryd yw oherwydd bod ymgynghoriad agored yn digwydd. Ni allwn ni ddod â'r ymgynghoriad i ben ar hyn o bryd. Ceir materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hynny, i ddechrau.
Mae'n wir i ddweud y daw adeg, neu efallai y daw adeg, pan fydd yn rhaid i Weinidogion wneud penderfyniad, a dyna'r adeg, heb os, y bydd Gweinidogion yn cael eu holi ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Ond ni allwch chi ar y naill llaw ddweud, 'Rydym ni wedi ymrwymo i adolygiad seneddol sy'n ystyried creu GIG sy'n gynaliadwy' ac yna dweud, 'Dyma fydd y dewisiadau—' [Torri ar draws.] Na, na, na. Ac yna dweud, 'Ceir rhai dewisiadau a fydd yn cael eu diystyru'n llwyr bob amser'. Nid dyna'r ffordd y mae'r pethau hyn yn gweithio. Yr wythnos diwethaf, roedd yr adolygiad seneddol yn cael ei gefnogi gan bob plaid yn y Siambr hon. Y cwestiwn yw: a yw'r pleidiau hynny'n cefnu ar yr adolygiad hwnnw nawr? Mae hwnnw'n gwestiwn y credaf bod angen ei ateb.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n dal i gredu na fydd y dewis du a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 yn costio unrhyw swm yn agos i £1 biliwn ac y bydd yn llawer is na'r ffigur a ragwelwyd gennych chi yn ôl yn 2015?
Wel, mae'r ffigur yn sicr wedi codi gan y bu mwy o oedi na'r disgwyl. Ond rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr yr ymdrinnir â'r mater o dagfeydd ar yr M4. Tybed beth yw barn ei blaid ef.
Prif Weinidog, cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r sesiwn hon, a dyna pam mai ni sy'n gofyn cwestiynau i chi ac yn chwilio am atebion gennych chi. Nid yw'n ymddangos ein bod ni'n cael llawer o atebion o wythnos i wythnos.
Ond, yr wythnos diwethaf, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd yr uwch was sifil a oedd yn ymdrin â hyn yn adran Ysgrifennydd y Cabinet fod cost y prosiect oddeutu £1.4 biliwn i £1.5 biliwn. Ond £1.3 biliwn i £1.4 biliwn yw'r ffigurau gwirioneddol a gyflwynwyd i'r ymchwiliad. Mae'r ffigurau hynny wedi eu cyflwyno i'r ymchwiliad, y ffigurau hynny. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n datgan nad oedd yn mynd i fod unrhyw beth yn agos at £1 biliwn ac y byddai gryn dipyn yn llai na'r ffigur hwnnw. Roedd cant a thrigain o weision sifil ar yr adeg honno, fel y dywedwyd wrthym gan y Gweinidog, ynghlwm i'r prosiect penodol hwn. Gofynnaf ichi eto: beth sydd wedi mynd o'i le? Mae hwn yn brosiect seilwaith allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn herio i'w gyflawni. Mae costau'r prosiect, os oedd eich amcangyfrifon ar yr adeg honno i'w credu, wedi dyblu bron, ar sail ffigurau'r gwasanaeth sifil ei hun a gyflwynwyd ganddo i'r ymchwiliad ac a nodwyd hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y pwyllgor hwnnw.
Wel, yn gyntaf oll, chwyddiant—mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r ffigurau; ac, yn ail, mae Llywodraeth y DU yn codi TAW. Mae Llywodraeth y DU yn codi TAW. Dyma her iddo: pam na wnaiff ef fynd yn ôl at ei blaid a dweud, 'Peidiwch â chodi TAW ar y prosiect hwn'? Byddai hynny'n arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd i ni.
Mae hynna'n ofnadwy, Prif Weinidog. Hwn yw eich prosiect seilwaith mwyaf. Mae'r trafodaethau ynghylch TAW yn parhau. Heb TAW—a geiriau eich gwas sifil eich hun yn y pwyllgor hwnnw yw'r rhain—mae costau'r prosiect hwn oddeutu £1.3 biliwn i £1.4 biliwn. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n ceisio argyhoeddi pobl bod y prosiect hwn yn mynd i gostio £800 miliwn. Gofynnais i chi am gael gweld yr wybodaeth honno fel y gallem ni fod yn hyderus eich bod chi'n adeiladu prosiect ar sail cyllid cadarn. Mae hyn i gyd wedi ei ddadwneud. A allwch chi ymrwymo heddiw bod terfyn uchaf lle mae'r prosiect hwn yn ddichonadwy, ac os nad oes y terfyn uchaf hwnnw, a fyddwch chi'n chwipio aelodau eich meinciau cefn ac yn cael cyfrifoldeb Cabinet i bleidleisio dros y prosiect hwn, beth bynnag fo'r gost?
Doedd e ddim yn gwybod am y TAW, oedd e? Roedd hwnnw'n un o'r materion sy'n newyddion iddo.
Mae'r trafodaethau hynny'n parhau.
Rwy'n synnu nad yw arweinydd yr Wrthblaid yn ymwybodol o'r mater TAW, ac nad yw wedi dweud dim yn gyhoeddus i gefnogi Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru. Un peth yw dweud bod trafodaethau yn parhau, ond pam nad yw e'n sefyll ar ei draed ac yn dweud wrth y Blaid Geidwadol—Plaid Geidwadol a gymerodd gyllid oddi wrth trydaneiddio'r rheilffyrdd i'w wario y tu allan i Gymru; Plaid Geidwadol sy'n ceisio cynyddu pris prosiect yr M4; Plaid Geidwadol a honnodd ei bod yn lleihau'r tollau ar bont Hafren pan mai'r cwbl yr oedd yn ei wneud oedd cael gwared ar TAW nad oedd yn gallu ei godi'n gyfreithlon yn y lle cyntaf. Hynny yw, rydym ni'n sôn am sbinio, ond mae gennym ni dderfis chwyrlïol yma. Byddwn yn darparu prosiectau trafnidiaeth ar gyfer pobl Cymru yn nannedd gwrthwynebiad gan y Ceidwadwyr.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae meddygon ymgynghorol ysbyty brys yng Nghymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ddiweddar yn honni bod diogelwch yn cael ei beryglu i raddau annerbyniol. Mae Coleg Brenhinol meddygaeth frys wedi disgrifio unedau damweiniau ac achosion brys fel meysydd cad. Mae Dr Tim Rogerson, meddyg ymgynghorol ym maes meddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi dweud am y darlun ledled Cymru,
Rydym ni ar ein gliniau cyn belled ag y mae gofal brys [yn y cwestiwn]. Mae gennym ni gleifion sy'n dod i adrannau achosion brys sydd eisoes yn llawn.
Mae'r meddygon ymgynghorol wedi gofyn i'r Prif Weinidog adolygu fel mater o frys nifer y gwelyau sydd ar gael ar gyfer gofal acíwt, ac am gynnydd sylweddol i gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. A yw e'n mynd i gytuno i'r cais hwnnw?
Yn gyntaf oll, rwy'n ymwybodol o'r pwysau a fu ar staff brys, ac rwy'n diolch iddyn nhw am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud. Mae wedi bod yn anodd iawn, o ystyried achosion o gynnydd sydyn i alw—cynnydd sydyn i alw na ellid ei ragweld ar ddiwrnodau penodol yn ystod cyfnod y gwyliau. Byddem ni wrth ein boddau—wrth ein boddau—gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol pe byddai Canghellor y Trysorlys yn gollwng y brêcs. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid dim ond yr wythnos diwethaf y gallem ni fod hyd at £4 biliwn yn well ein byd pe byddai tueddiadau blaenorol wedi cael eu dilyn. Mae hynny'n fuddsoddiad sylweddol y gallem ni ei wneud yn y gwasanaeth iechyd.
Felly, ydym, rydym ni'n cytuno â'r meddygon ymgynghorol ein bod ni eisiau gwario mwy o arian ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ble'r ydym ni'n mynd i'w gymryd? Ysgolion? Oherwydd dyna'r unig le y gallwn ni fynd. Cynyddu'r dreth gyngor? Oherwydd dyna fydd yn digwydd os byddwn ni'n cymryd arian oddi ar lywodraeth leol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU—. Boris Johnson heddiw, yn dweud bod £100 miliwn yr wythnos ar gael ar gyfer y GIG yn Lloegr. Byddai hynny'n golygu £300 miliwn yn fwy ar gael yng Nghymru. Ar hynny, os dim byd arall, rwy'n cefnogi Boris Johnson.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd mwy o arian i'w wario ar y gwasanaeth iechyd. [Torri ar draws.] Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru—. Yr amseru sy'n bwysig. Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru yn gynharach, dywedodd nad yw gwelyau'n bwysig mewn gwirionedd; pa mor gyflym yr ydych chi'n symud pobl allan ohonyn nhw sy'n bwysig. Ond y gwir amdani yw bu gostyngiad sylweddol iawn i nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai ledled Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf—tua 20 y cant i 25 y cant yn dibynnu ar y bwrdd iechyd—ond prin y mae cyfradd defnydd y gwelyau hynny wedi newid, ac mae'n uwch nag y bu, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru, uwchlaw'r lefel ddiogel o 85 y cant ers saith mlynedd erbyn hyn. Yn sicr, o fewn y blaenoriaethau'r gwasanaeth iechyd y mae'r Prif Weinidog yn gyfrifol amdanynt, nid Boris Johnson, dylai fod rhyw fath o newid i sicrhau bod diogelwch mewn ysbytai yn cael ei gymryd o ddifrif gan y Llywodraeth hon.
Mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o welyau ar gael. Nid yw'n iawn i ddweud fy mod i wedi dweud nad oedd gwelyau'n bwysig: dywedais mai dim ond rhan o'r darlun ydyn nhw. Os edrychwch chi, er enghraifft, yn Lloegr, lle mae gwariant ar ofal cymdeithasol wedi cael ei daro'n galed, mae Lloegr yn medi'r hyn a heuodd erbyn hyn. Rydym ni wedi sicrhau drwy, er enghraifft, y gronfa gofal integredig, y gall mwy o bobl adael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod. Rydym ni'n gweld achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng, tra bod gofal cymdeithasol yn Lloegr, wrth gwrs, ar fin chwalu. Os nad ydych chi'n fy nghredu i, gwrandewch ar arweinwyr cynghorau—arweinwyr cynghorau Ceidwadol—yn Lloegr, sy'n dweud yn union hynny.
Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn i'n ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi gorffen gan fod cymaint o sŵn yn dod o rannau eraill y Siambr. Nid oedd holl bwynt fy nghwestiwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol, ond â gwelyau mewn ysbytai a gofal ysbyty. Dywedodd y meddygon ymgynghorol a ysgrifennodd at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf bod adrannau achosion brys yng Nghymru, mewn rhai ffyrdd, yn waeth nag yn Lloegr. Mae staff yn cyrraedd y gwaith i ganfod cleifion yn yr adran achosion brys a oedd yno y diwrnod cynt, ac mae sawl aelod o staff mewn dagrau gan eu bod yn teimlo na allant ddarparu'r gofal sydd ei angen ar gleifion. Mae'r meddygon ymgynghorol hefyd yn honni bod y ffigurau targed o bedair awr ar gyfer yr ysbytai sy'n perfformio orau yng Nghymru yn debyg i rai o'r ysbytai sy'n perfformio waethaf yn Lloegr. Yn sicr, mae hynny'n gondemniad o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru.
Ceir marciau cwestiwn ynghylch ffigurau Lloegr i ddechrau. Nid yw hynny'n lleihau, wrth gwrs, y pwysau sydd wedi bod ar wasanaethau brys yng Nghymru, ac yn sicr nid wyf yn ceisio bychanu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Ond y cwestiwn yw hwn: a ddylech chi wahanu'r mater o iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae e'n ceisio ei wneud gyda'i drydydd cwestiwn? Yr ateb yw, 'Na, allwch chi ddim.' Mae'r ddau wedi eu hintegreiddio, mae'r ddau yr un fath, maen nhw'n integredig o ran y gwasanaeth y maen nhw'n ceisio ei ddarparu i bobl ac rydym ni wedi cyfrannu arian at hynny drwy'r gronfa gofal integredig, gan wneud yn siŵr y gall pobl adael yr ysbyty pan eu bod yn gallu.
Yr hyn a wnaeth Lloegr oedd ceisio gwario'r arian ar iechyd ac amddifadu gofal cymdeithasol o arian, gan gymryd oddi wrth gofal cymdeithasol a rhoi i iechyd i bob pwrpas, ac mae Lloegr yn dioddef effeithiau hynny erbyn hyn. Roeddem ni o'r farn erioed bod yn rhaid i iechyd a gofal cymdeithasol gael eu hystyried fel un a bod y naill wedi ei gysylltu'n gryf â'r llall.
Os edrychwn ni, er enghraifft, ychydig y tu hwnt i hynny at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru); mae hwnnw'n ystyried dod â'r ddarpariaeth addysg ac iechyd ar gyfer pobl ifanc ynghyd hefyd. Felly, rydym ni wedi sicrhau, pan ddaw i wariant, bod gwariant yng Nghymru yn uwch fesul pen nag yn Lloegr ar iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr nad ydym yn siomi ein pobl fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yn Lloegr.