Ddeallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydw i eisoes wedi crybwyll dwy enghraifft yn y fan yna o ganolfannau sydd wedi cael eu sefydlu i ymateb i heriau'r dyfodol a'u datrys, ac, wrth gwrs, bydd llawer o hyn yn cael ei lywio gan y sector addysg uwch, felly, bydd llawer o'r canolfannau hyn, yn y dyfodol, yn cael eu rhedeg ganddyn nhw. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod ni eisiau annog gweithio economaidd trawsffiniol. Mae'n digwydd ym mhobman arall yn y byd, felly pam na fyddai'n digwydd rhwng Cymru a Lloegr? Os bydd hynny'n arwain at ffyniant ar y cyd rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr, yna da iawn. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw nad oes gan dde-orllewin Lloegr gorff y gallwn siarad ag ef yn yr un modd ag y gallwn siarad â'r Alban neu Ogledd Iwerddon. Yn sicr, mae hwnnw'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol.