Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 23 Ionawr 2018.
Ydy, mae'n dda bod y mater hwn yn cael sylw ar lefel lywodraethol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth ddiweddar bod cwmnïau fel Tesco yn colli llawer mwy o arian o ddwyn o siopau ers cyflwyno awtomeiddio ar ffurf peiriannau hunan-sganio. A oes achos nawr i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r cwmnïau hynny i geisio symud oddi wrth awtomeiddio diangen a mynd yn ôl tuag at gyflogi pobl go iawn i wneud swyddi?