Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ceir marciau cwestiwn ynghylch ffigurau Lloegr i ddechrau. Nid yw hynny'n lleihau, wrth gwrs, y pwysau sydd wedi bod ar wasanaethau brys yng Nghymru, ac yn sicr nid wyf yn ceisio bychanu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Ond y cwestiwn yw hwn: a ddylech chi wahanu'r mater o iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae e'n ceisio ei wneud gyda'i drydydd cwestiwn? Yr ateb yw, 'Na, allwch chi ddim.' Mae'r ddau wedi eu hintegreiddio, mae'r ddau yr un fath, maen nhw'n integredig o ran y gwasanaeth y maen nhw'n ceisio ei ddarparu i bobl ac rydym ni wedi cyfrannu arian at hynny drwy'r gronfa gofal integredig, gan wneud yn siŵr y gall pobl adael yr ysbyty pan eu bod yn gallu.

Yr hyn a wnaeth Lloegr oedd ceisio gwario'r arian ar iechyd ac amddifadu gofal cymdeithasol o arian, gan gymryd oddi wrth gofal cymdeithasol a rhoi i iechyd i bob pwrpas, ac mae Lloegr yn dioddef effeithiau hynny erbyn hyn. Roeddem ni o'r farn erioed bod yn rhaid i iechyd a gofal cymdeithasol gael eu hystyried fel un a bod y naill wedi ei gysylltu'n gryf â'r llall.

Os edrychwn ni, er enghraifft, ychydig y tu hwnt i hynny at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru); mae hwnnw'n ystyried dod â'r ddarpariaeth addysg ac iechyd ar gyfer pobl ifanc ynghyd hefyd. Felly, rydym ni wedi sicrhau, pan ddaw i wariant, bod gwariant yng Nghymru yn uwch fesul pen nag yn Lloegr ar iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr nad ydym yn siomi ein pobl fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yn Lloegr.