Systemau Talu heb Arian Parod ar gyfer Prydau Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:52, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ceir tystiolaeth, wrth gwrs, bod cysylltiad rhwng systemau talu heb ddefnyddio arian parod a niferoedd uwch yn manteisio ar brydau ysgol am ddim, a dyna pam yr wyf i wedi cefnogi ac ymgyrchu dros eu cyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae Powys wedi gwneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl wych, ond mae gennym ni sefyllfa nawr lle na fydd plant y mae eu rhieni yn talu am ginio ac nad ydynt wedi ychwanegu arian at eu cardiau yn gallu cael unrhyw fwyd mwyach. Rwy'n deall safbwynt y Cyngor yn hyn o beth, ond ni all fod yn iawn, yn fy marn i, bod plentyn yn llwgu yn yr ysgol oherwydd bod rhywun, rywbryd wedi anghofio neu ddim yn gallu fforddio talu am yr arian cinio yr wythnos benodol honno.

Rwy'n arbennig o awyddus i hyn gael ei ddatrys cyn cyflwyno credyd cynhwysol, sy'n mynd i ddigwydd ym Mhowys ym mis Mehefin. Rydym ni i gyd yn gwybod am yr oedi y mae pobl yn ei ddioddef cyn cael eu harian ac rwy'n bryderus dros ben y gallai olygu, yn y system hon, methiant llwyr i'r bobl hynny sy'n disgwyl i'r arian hwnnw fod ar gael ac i'w plant gael eu bwydo, ac na fydd yn digwydd. Gofynnaf gyda pharch i chi felly, Prif Weinidog, a allech chi gael gair gyda'ch dau Ysgrifennydd y Cabinet i geisio datrys hyn. Mae brys iddo gael ei wneud cyn mis Mehefin.