Systemau Talu heb Arian Parod ar gyfer Prydau Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf. Rwy'n fwy na pharod i fynd ar drywydd hynny. Cyflwynodd ysgol fy mab fy hun daliadau heb ddefnyddio arian parod y tymor hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny wedi osgoi gorfod chwilota am ddarnau punt bob wythnos, sef yr hyn a oedd yn tueddu i ddigwydd yn ein tŷ ni. Y pwynt pwysig yw hwn: nid wyf i'n credu y byddai'n iawn, os nad oes unrhyw gredyd yng nghyfrif plentyn, fel petai, na ddylai'r plentyn hwnnw gael pryd o fwyd o ganlyniad i hynny. Dylai fod system ar waith lle mae rhieni yn cael eu hatgoffa yn brydlon o'r balans ar y cyfrif hwnnw ac nid dod i wybod amdano pan na fydd unrhyw beth yn y cyfrif. Yn sicr, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fynd i'r afael â hyn ac ateb fy ffrind a'm cydweithiwr yn fwy manwl.FootnoteLink