Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Ionawr 2018.
Mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o welyau ar gael. Nid yw'n iawn i ddweud fy mod i wedi dweud nad oedd gwelyau'n bwysig: dywedais mai dim ond rhan o'r darlun ydyn nhw. Os edrychwch chi, er enghraifft, yn Lloegr, lle mae gwariant ar ofal cymdeithasol wedi cael ei daro'n galed, mae Lloegr yn medi'r hyn a heuodd erbyn hyn. Rydym ni wedi sicrhau drwy, er enghraifft, y gronfa gofal integredig, y gall mwy o bobl adael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod. Rydym ni'n gweld achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng, tra bod gofal cymdeithasol yn Lloegr, wrth gwrs, ar fin chwalu. Os nad ydych chi'n fy nghredu i, gwrandewch ar arweinwyr cynghorau—arweinwyr cynghorau Ceidwadol—yn Lloegr, sy'n dweud yn union hynny.