Shropdoc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r sefyllfa wedi codi gan fod Shropdoc ei hun wedi wynebu heriau ariannol yn ystod 2017. Mae'r heriau hynny yn parhau. O ganlyniad, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda Shropdoc a grwpiau comisiynu clinigol Lloegr i'w cynorthwyo tra eu bod yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi sefydlu tasglu i asesu a darparu atebion amgen posibl ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau y tu allan i oriau ym Mhowys. Mae'r tasglu hwnnw wedi datblygu cynlluniau tymor byr a chanolig. Mae'r contract presennol gyda Shropdoc yn dod i ben, rwy'n deall, yn y gwanwyn, felly ceir cyfle nawr i weithio ar fodelau newydd a gweithio gyda Shropdoc ei hun. Mae hon yn sefyllfa na ddewisiwyd gan y bwrdd iechyd, ond bu heriau a roddwyd o'u blaenau o ganlyniad i sefyllfa ariannol Shropdoc ei hun, yr ydym yn gobeithio y gellir eu datrys.