Shropdoc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:59, 23 Ionawr 2018

Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae llawer o drigolion Powys yn ddibynnol ar wasanaethau sydd naill ai’n cael eu darparu o Loegr neu sydd wedi’u lleoli yn Lloegr. Gyda’r newyddion rwy’n clywed bod gohirio ynglŷn â phenderfyniad ar leoliad a newydd-deb yr ysbyty cyffredinol ar gyfer gorllewin swydd Shropshire, lle bynnag y mae honno'n mynd i fod ac i gael ei lleoli—mae'r ddadl rhwng Telford a'r Amwythig ei hun, wrth gwrs, yn parhau ac nid oes arian gan Lywodraeth San Steffan eto i fuddsoddi yn hynny—pa drafodaethau a ydych chi yn eu cael fel Llywodraeth—achos mae e tu hwnt i'r bwrdd iechyd, i fod yn onest—gyda'r Llywodraeth yn Lloegr i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny'n parhau ac nad oes bwlch yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ym Mhowys?