Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 23 Ionawr 2018.
Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus peidio â symud ar hyd y llwybr hwnnw a bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n cymryd cyfrifoldeb am bwerau nad yw'r arian gennym ni i'w hariannu wedyn. Mater i ni yw hynny. Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth y DU hanes o gytuno i drosglwyddo pwerau heb drosglwyddo'r cyllid, a dyna'r cwestiwn y mae angen i ni ei ateb.