Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 23 Ionawr 2018.
Mae fy etholwyr yn edrych ymlaen at y tramiau a systemau rheilffyrdd ysgafn a ddaw yn sgil y metro, ond yn y cyfamser mae pobl yn dibynnu ar fysiau i gael eu hunain i'r gwaith ac i'r ysgol. Bws Caerdydd yw'r gwasanaeth bws trefol ac mae'n nhw'n destun ymosodiadau bygythiol gan gwmnïau preifat sy'n dewis y llwybrau mwyaf proffidiol. Nid yw Deddf Trafnidiaeth 1985 yn caniatáu darparu croes-gymhorthdal i un llwybr o refeniw un arall, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd rhwydwaith o wasanaethau cynaliadwy ar gyfer ein holl ddinasyddion, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt gar, a pha fodel darparu sydd ei angen arnom a pha ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen arnom.