2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:20, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r datganiad cyntaf yn ymwneud â chynigion newid gwasanaeth newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sydd wedi codi eisoes yn y Siambr hon y prynhawn yma. Nawr, gallai rhai o'r cynigion hyn achosi i wasanaethau gael eu canoli ymhellach i ffwrdd o sir Benfro, a gallai rhai o'r cynigion hyn hyd yn oed arwain at gau Ysbyty Llwynhelyg yn gyfan gwbl yn y dyfodol. Bydd Aelodau'n gwybod fy mod i wedi codi'r mater hwn yn gyson yn y gorffennol, gan dynnu sylw at effeithiau canoli gwasanaethau ar adrannau eraill, sydd, yn eu tro, yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa waeth yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi cael fy nghyhuddo'n aml o godi bwganod, ac mae'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd yma heddiw eto wrth godi sgil-effeithiau canoli gwasanaethau ar ysbytai yn y gorllewin. Mae'n ymddangos bod y pryderon hynny yn gyflym ddod yn realiti, gan gofio bod rhai o'r dewisiadau a ystyriwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn golygu y byddai ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gau yn gyfan gwbl. Nawr, ni ddylid hyd yn oed ystyried cau'r ysbyty, yn fy marn i, a bydd gwneud hynny yn gwbl annerbyniol i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. Mae'n bwysig nawr inni glywed gan Lywodraeth Cymru beth yw ei safbwynt ar y mater difrifol hwn. 

Gwrandewais yn ofalus ar atebion y Prif Weinidog yn gynharach, a oedd yn awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru farn o gwbl. Llywodraeth Cymru, yn sicr, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru, ac rwy'n bryderus iawn bod y Llywodraeth yn gwrthod ymateb i wasanaethau iechyd yn y gorllewin. Yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, nid oedd cau ysbyty Llwynhelyg yn rhan o bolisi'r blaid sy'n llywodraethu. Felly, mae ond yn rhesymol bod y Llywodraeth bellach yn dweud wrth y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli beth yw ei barn ar ddyfodol ysbyty Llwynhelyg. Felly, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad brys ynglŷn â dyfodol darpariaeth gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, ac yn arbennig yn sir Benfro, cyn gynted ag y bo modd? Oherwydd dylai Llywodraeth Cymru nodi ei safbwynt ar y mater difrifol hwn. 

Yn ail, a gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ddatganiad ar strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol yn y gorllewin? Mae Meddygfa St Clement yn Neyland, yn fy etholaeth i, wedi cyflwyno cais i'r bwrdd iechyd lleol i gau'r feddygfa, yn rhannol, yn sgil prinder staff, gan amlygu unwaith eto pam mae angen gwneud mwy i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol i swyddi yn y gorllewin. Mae hwn yn fater difrifol iawn i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli, gan gofio ein bod wedi gweld problemau eraill wrth recriwtio meddygon teulu yn Wdig, yng ngogledd fy etholaeth. Felly, a wnewch chi bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad yn amlinellu strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.]—fel nad yw meddygfeydd eraill fel hyn yn cau, o ganlyniad i brinder staff, yn y dyfodol?

Llywydd, gallaf glywed rhai Aelodau Llafur yn chwerthin am y materion ddifrifol iawn hyn. [Torri ar draws.] Dylai fod cywilydd arnyn nhw.