Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 23 Ionawr 2018.
Arweinydd y tŷ, mae Chwarae Teg wedi amlygu mai Gwlad yr Iâ yw'r wlad gyntaf yn y byd i orfodi'n gyfreithlon gyflog cyfartal i ddynion a menywod. A wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog syfrdanol rhwng y rhywiau, sydd wedi ymestyn 23 y cant yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn ôl adroddiad yr wythnos hon, yn ogystal â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menter 'FairPlay Employer' Chwarae Teg?