3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd o ran y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:11, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, dylid croesawu unrhyw dystiolaeth fod pobl yn ei chael hi'n haws erbyn hyn i gael cyffuriau y mae ganddyn nhw'r hawl iddynt, ond dyma ychydig o gefndir: efallai y cofiwch chi, yn 2014, fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi polisi o geisio cael cronfa driniaeth newydd a'i bwriad yn benodol oedd ariannu cyffuriau a gafwyd drwy geisiadau cyllido cleifion unigol. Rwy'n falch iawn ein bod gam ymlaen bellach, o ganlyniad i gytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar ddileu eithriadoldeb. Rwy'n falch bod hynny wedi digwydd. Yna, yn 2016, cyhoeddodd Llafur ei chronfa driniaeth newydd, a oedd y wahanol. Roeddem ni o'r farn—ac mae'n bwysig inni nodi hyn—na ddylai fod angen cronfa i gymell byrddau iechyd lleol i wneud y pethau y dylen nhw eu gwneud beth bynnag dan y gyfraith, ni waeth pa mor dderbyniol fo'r cronfeydd ychwanegol.

Felly, y cwestiwn cyntaf i chi yw hyn: yn y cyfryngau y bore yma, fe adroddwyd, yn flaenorol, fod swyddogion yn awgrymu y gallai gymryd mwy na 100 niwrnod i gyflwyno meddyginiaeth gymeradwy. A yw hynny'n gyfaddefiad fod y canllawiau gweinidogol cynharach, sef y dylai triniaethau fod ar gael o fewn tri mis i'w cymeradwyo, yn cael eu hanwybyddu? Ac, oes, mae arian yn dod drwy'r gronfa driniaeth newydd i fyrddau iechyd lleol ar gyfer talu am driniaethau ychwanegol, ond mae'n werth inni ofyn hyn hefyd: a ydych chi'n credu bod perygl, yn sgil y polisi hwn, y bydd byrddau iechyd lleol yn disgwyl cael arian ychwanegol i weithredu'r cyfarwyddiadau gweinidogol eraill y dylen nhw fod yn glynu atynt beth bynnag o dan y gyfraith?

Gan symud ymlaen at yr hyn yr oeddech yn cyfeirio atyn nhw fel cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd, efallai y gwnewch chi ymhelaethu ychydig ar hynny; sef, sut yr ydych am sicrhau bod y cynllunio hwn yn digwydd, ac nad yw cleifion yn cael eu gadael yn y sefyllfa lle nad yw'r cyffur ar gael iddynt yn y dyfodol?

Ac yn olaf —mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i godi sawl tro yn y gorffennol—nid meddyginiaethau yn unig sy'n gwella canlyniadau i gleifion. Gall technolegau iechyd eraill a newidiadau syml i ganllawiau ar sut i ddefnyddio meddyginiaethau wneud gwahaniaeth i gleifion. Gall hyd yn oed godi ymwybyddiaeth o gyflwr arwain at ganlyniadau gwell, a cheir rhwystrau yma i'r defnydd o arfer gorau ledled y GIG; er enghraifft, y diffyg amser ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn mynd i'r afael ag ef hefyd?