3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd o ran y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:17, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais i pan wnaethoch chi ei chyhoeddi, mae'r gronfa driniaeth newydd yn ychwanegiad i'r GIG sydd i'w groesawu'n fawr iawn gan ei bod yn gallu cyflymu'r triniaethau hanfodol sydd ar gael i bob claf, ac nid dim ond pobl sy'n dioddef diagnosis o ganser. Rwy'n croesawu'r newyddion bod rhai meddyginiaethau wedi cymryd 17 diwrnod yn unig i fod ar gael o dan y gronfa driniaeth newydd, ac mae hyn yn newyddion gwych i gleifion. Er hynny, fel gyda chynlluniau o'r fath, mae'r cythraul yn y manylion. Nid yw'r cyflawni byth yn cyfateb i'r dylunio. Nid yw pob bwrdd iechyd lleol mor effeithlon â'i gilydd wrth gyflwyno triniaethau newydd, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gennych i fonitro cydymffurfiaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ein diweddaru ar sut y mae pob bwrdd iechyd lleol yn cydymffurfio â'r gofyniad i roi triniaethau o fewn yr amserlenni gofynnol?

Croesawaf y ffaith fod 82 o gyffuriau newydd ar gael bellach o dan y cynllun, yn trin popeth o arthritis i acromegali. Mae'n rhaid imi gyfaddef y bu raid i mi fynd i chwilio am ystyr y cyflwr hwnnw, ond newyddion gwych yw bod pobl sy'n dioddef o'r anhwylder gwanychol hormonaidd hwn bellach yn gallu cael eu trin yng Nghymru. Mae hyn yn amlygu'r gwelliant enfawr yn y gronfa driniaeth newydd o'i chymharu â'r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr. Gall y cynllun hwn fod o fudd i bob claf yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef o ganser. Byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech amlinellu nifer y cleifion sydd wedi elwa ar y gronfa yn ystod y 12 mis diwethaf.

Wrth gwrs, mae'r gronfa driniaeth newydd ond yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno triniaethau newydd am y 12 mis cyntaf. Rhaid i'r byrddau iechyd ddarparu ar gyfer y driniaeth barhaus o fewn eu cyllidebau presennol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar sut y mae byrddau iechyd yn cynllunio i ddarparu ar gyfer y gwariant ychwanegol ar y triniaethau newydd hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?

Croesawaf hefyd y newyddion bod eich Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r diwydiant fferyllol a'ch bod yn gweithio gydag ABPI Cymru ar y gronfa driniaeth newydd. Byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech amlinellu'r hyn sy'n cael ei wneud i wella'r gwaith o sganio'r gorwel o fewn y GIG fel ein bod yn fwy parod i fanteisio i'r eithaf ar driniaethau yn y dyfodol.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cronfa driniaeth yw hon, ac er fy mod yn croesawu 82 o feddyginiaethau newydd yn fawr iawn, nid yw'r gronfa'n gyfyngedig i ymyriadau fferyllol. Felly, a gawn ni edrych ymlaen at weld y gronfa yn cael ei defnyddio i gyflwyno ymyriadau therapiwtig newydd yn y 12 mis nesaf?

Croesawaf eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r newyddion y gall cleifion yng Nghymru dderbyn triniaethau gwell yn gynharach, weithiau ddyddiau'n unig ar ôl eu cymeradwyo. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y 12 mis nesaf i sicrhau bod y triniaethau newydd hyn ar gael i bob claf sydd eu hangen, ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw. Diolch yn fawr.