5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:22, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Paul Davies, am y gyfres o gwestiynau, ac roeddwn yn falch iawn o siarad ym mrecwast Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma yr oedd Paul yn cyfeirio ato, a noddwyd ganddo. Yn anffodus, ni chefais ddim brecwast, ond yn aml mae hynny'n broblem pan ewch i'r digwyddiadau hyn ac rydych chi'n cael eich rhuthro heibio'r bwyd. Ond roedd yn braf iawn gweld cynifer o bobl yn mwynhau cynnyrch Cymreig ar ei orau, ac yn cysylltu ein sector amaethyddol gyda'n bwyd a diod, y collir y cysylltiad weithiau yn anffodus, rwy'n credu.

Rydych chi'n hollol iawn bod y targed uchelgeisiol iawn hwnnw—. Cofiaf eistedd yn y Cabinet pan gyhoeddodd rhagflaenydd fy rhagflaenydd, Alun Davies, y targed hwn o gynyddu ein diwydiant bwyd a diod i £7 biliwn erbyn 2020 a meddwl na fyddem ni byth yn cyflawni hynny, felly i gyflawni—. Rwy'n siŵr pan ymddengys data 2017 y byddwn yn sicr wedi cyflawni hynny, ond mae cyrraedd £6.9 biliwn erbyn 2016 yn gyflawniad aruthrol, ac, fel y dywedaf, mae'n ganlyniad gwaith caled cymaint o'n busnesau.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at gymorth allforio ac, yn sicr, mae heriau Brexit yn golygu bod angen inni edrych ar farchnadoedd newydd, a dyna pam ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol i'r rhaglenni allforio, er enghraifft, er mwyn annog ein cwmnïau i'w ystyried. Roeddwn yn dymuno rhoi rhai ffigurau diweddar ynglŷn ag allforio, oherwydd mae'n dangos bod allforion bwyd a diod Cymru wedi cynyddu bron 20 y cant, o £264 miliwn yn 2015 i £337 miliwn yn—. Mae'n ddrwg gennyf, 2015, ac mae hynny hyd at 2016-17. Aiff saith deg dau y cant o allforion i'r Undeb Ewropeaidd, felly fe allwch chi weld faint o ansicrwydd sy'n cael ei greu a pham bod angen inni edrych am farchnadoedd newydd. Mae hynny'n cymharu mewn gwirionedd â 9.5 y cant ar gyfer y DU gyfan, felly fe allwch chi weld pa mor llwyddiannus yr ydym ni yng Nghymru. A soniais fy mod i wedi rhoi cyllid pellach o £1.5 miliwn i Hybu Cig Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref yn Anuga yn Cologne i ddatblygu rhaglen datblygu allforio well. Yn sicr, fy nhrafodaeth gyntaf â HCC yw fy mod wedi dweud wrthyn nhw am fod mor uchelgeisiol â phosib i gyflawni hynny, ond byddai'n wych pe gallan nhw ragori ar hynny, a gobeithiaf y byddant.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at Blas Cymru. Roedd hwnnw'n yn llwyddiant mawr ac, unwaith eto, fy rhagflaenydd, Carl Sargeant,  ei syniad ef oedd dod â'r byd i Gymru, a chredaf ei fod wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Gwn ein bod, hyd yma, wedi cael cynnydd o £7 miliwn o fusnes ychwanegol ohono ond, unwaith eto, y gobaith yw y gallem ni gael hyd at £22 miliwn o bosib. Byddwn wedi hoffi gwneud un bob blwyddyn, ond mae'n ddigwyddiad enfawr felly rydym ni'n mynd i'w gynnal yn awr ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, bydd yn ddigwyddiad llawer mwy.

Fe wnaethoch chi sôn am werth Cymreictod ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt perthnasol iawn. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda nifer o archfarchnadoedd, ac, os ewch chi i rywle fel Morrisons er enghraifft, rydych chi'n gweld Blas Cymru o'ch etholaeth eich hun, ac rydych chi'n gweld pobl yn chwilio am y label hwnnw. Credaf fod angen inni edrych ar ein holl archfarchnadoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cynyddu'r brand. Ac, fel y dywedaf, rwyf wedi cael trafodaethau gyda—ni allaf feddwl am unrhyw archfarchnad nad wyf wedi cael trafodaeth gyda nhw ac maen nhw'n sicr yn teimlo'n fwy parod a galluog i gymryd ein cynnyrch.

Mae sgiliau yn amlwg yn fater pwysig iawn, a soniais am y gynhadledd a gynhaliodd  bwrdd diwydiant Bwyd a Diod Cymru yma yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Mae'r un nesaf yn Llandudno, rwy'n credu, y mis nesaf—yn sicr yn y Gogledd. Dywedwyd wrthyf am y bylchau. Mae'n destun pryder, os nad ydym ni'n gallu cael mewnfudwyr o'r UE yn gweithio yn y ffordd y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ni fydd y bylchau hynny'n cael eu llenwi. Felly, mae'n hollol briodol bod angen inni sicrhau bod ein busnesau wedi'u harfogi'n llawn gyda'r sgiliau a'r cymorth hyfforddiant priodol. 

Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddwn yn cyhoeddi ystadegau creu swyddi. Yn sicr, os yw'r rheini gennyf i, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Hwyrach y bydd ar sail Cymru gyfan ond byddaf yn sicr yn amcanu at wneud hynny.FootnoteLink

Mae arian yn bwysig iawn ac rydych chi'n iawn, ni allwn ni ond rhoi arian i wahanol gorneli  o Gymru yn unig. Ond, yn sicr—wyddoch chi, rwy'n teithio ledled Cymru. Roeddwn i yn y Gogledd—ymwelais â dau gwmni bwyd ddydd Iau diwethaf. Un ohonyn nhw oedd Siwgr a Sbeis—bydd llawer o Aelodau yn ymwybodol o'u cacennau, ac maen nhw wedi cael rhywfaint o arian gennym ni. Yna, ddoe, roeddwn i lawr yn y gorllewin yn ymweld â chwmnïau. Felly, credaf yn sicr ei fod yno. Unwaith eto, nid wyf yn siŵr a ydym ni'n cadw'r wybodaeth honno ar sail awdurdod lleol ond, yn sicr, os ydym ni yn ei chadw hi ar sail rhanbarth, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.

Mae iechyd cyhoeddus yn amlwg yn bwysig iawn a byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth gordewdra. Credaf bellach y caiff hi ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf, yn 2019, ac, yn amlwg, os gallwn ni helpu ein plant i fwyta yn iach heddiw, yn amlwg rydym ni'n creu oedolion iach. Credaf felly, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ymdrin ag iechyd y cyhoedd.

Mae gwyliau bwyd, unwaith eto, rwy'n credu yn llwyddiant mawr ac rwyf wedi bod yn ffodus i fynychu llawer ledled Cymru. Yr un diwethaf a fynychais rwy'n credu oedd yn Llangollen yn etholaeth Ken Skates, ond gwn ein bod wedi sicrhau unwaith eto bod cyllid yn cael ei ledaenu ar draws Cymru.