5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:40, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwbl argyhoeddedig y byddwn yn sicr yn cyrraedd y targed hwnnw o £7 biliwn pan fydd data 2017 gennym, ac yna bydd yn rhaid i ni benderfynu ble'r ydym yn gosod y targed nesaf. Fe wnaethoch chi gyfeirio yn benodol at Gaer, ac, yn amlwg, mae fy etholaeth i yn ffinio â Swydd Gaer—[Torri ar draws.] Rwy'n dyfalu mai dyna pam yr ydych chi wedi sôn amdano. Ni allaf feddwl am unrhyw un mewn gwirionedd sydd wedi sôn wrthyf i am hynny. Roeddwn yn eithaf siomedig i ganfod, pan ddeuthum i'r swydd, nad oedd gennym ni, mewn gwirionedd, yr ystadegau ar gyfer cynnyrch yr ydym ni'n ei allforio i Loegr—yn niffyg gair gwell—ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried, oherwydd yn sicr mae angen inni sicrhau ein bod yn gweld cynnydd yn ein cynnyrch bwyd a diod o Gymru sy'n mynd i Loegr. Rwy'n ymwybodol iawn o'r Pwyllgor y mae Mike Hedges yn ei gadeirio, ac o'r adolygiad, ac rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad.FootnoteLink

Mae'r agenda bwyd a diod yn eang iawn, ond mae'n gwbl hanfodol bwysig i Gymru, a dyna pam yr oeddwn i mor falch o'i gweld yn flaenoriaeth a'i bod wedi dod yn sector sy'n sylfaen ar gyfer ein heconomi. Yn sicr, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda'm cyd-Aelod, Ken Skates, ynghylch twristiaeth bwyd, er enghraifft. Ceir bylchau yno y gallwn ni ymdrin â nhw yn y dyfodol. O ran micro fragdai, yn sicr, rwyf wedi bod yn ffodus i ymweld â rhai fy hun. Rwyf wedi ymweld â Tiny Rebel yng Nghasnewydd, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf—. Mae'n gwmni gwych wedi'i ddechrau gan gwpl ifanc, arloesol iawn, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf yn sicr eu bod nid yn unig yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant—nid dim ond cymorth ariannol, ond y cyngor busnes gan swyddogion—ac eto, mae'n wych eu gweld yn mynd o nerth i nerth.