5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:37, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y dylem ni i gyd groesawu, ers mis Tachwedd 2016, fod trosiant gwerthiant y diwydiant wedi cynyddu o £6.1 biliwn i £6.9 biliwn, ac rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni fod yn falch iawn ein bod ni'n sefyll ar drothwy'r targed £7 biliwn tuag at dwf cynaliadwy yn y cynllun gweithredu bwyd a diod, a bennwyd yn 2014, i'w gyrraedd erbyn 2020—ac ymddengys y byddwn yn ei gyflawni'n gynnar.

Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, mae'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i fwyd a diod yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn rhan o hynny, roeddwn yn siarad â chynhyrchwyr o Gymru yn Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cefais fy nghyfareddu gan ba mor hawdd oedd hi, meddai'r cwmnïau wrthyf, i gael yr archfarchnadoedd i hyrwyddo eu cynnyrch Cymreig yng Nghymru gyfan. Erbyn hyn, meddent, yr anhawster oedd cael eu cynnyrch ar draws y ffin. Roedd hyn yn cynnwys cwmnïau a oedd yn seiliedig yn Sir y Fflint sy'n ei chael hi'n haws cael archfarchnad i roi eu cynnyrch yn eu hadran Gymreig yn Abertawe nag i'w roi yng Nghaer a chael adran Gymreig yng Nghaer. A soniwyd am hyn wrth Ysgrifennydd y Cabinet, ac os nad, a all Ysgrifennydd y Cabinet, efallai, siarad â rhai pobl sy'n prosesu bwyd yng Nghymru i weld a yw honno'n broblem gyffredinol?

Fel y gŵyr pobl, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn rhannau o Ewrop megis Aarhus. Mae gan Aarhus dri phrosesydd bwyd mawr: Arla, Lurpak a Castello. Beth fyddwn i'n ei weld pe byddwn yn mynd i archfarchnad yn Nenmarc—beth fyddai'n cyfateb i hynny yng Nghymru? Credaf, os mai dim yw'r ateb, y credaf mai dyna ydyw yn fwy na thebyg, mai dyna mewn gwirionedd yw ein her, ynte? Un o'r meysydd twf mewn bwyd a diod fu micro fragdai, megis West by Three a Boss yn Nwyrain Abertawe, yn ogystal â bragdai annibynnol bach sy'n tyfu fel Tomos Watkin, hefyd yn Nwyrain Abertawe, a Tiny Rebel yng Nghasnewydd. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r diwydiant hwn, sydd mewn gwirionedd wedi bod yn ddiwydiant twf yn economi Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf?