5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:32, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Simon Thomas am ei restr o gwestiynau ac am groesawu'r cynnydd sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud.  Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch tîm Cymru, brand Cymru a sicrhau bod pobl yn deall o ble y daw'r bwyd. Yn sicr, rwyf yn cael trafodaethau ynglŷn â labelu. Byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed mewn cynnyrch, y gallech chi gael rhai cynhwysion wedi eu mewnforio hefyd, felly mae'n bwysig iawn bod labelu yn glir iawn a bod pobl yn deall yr hyn a wnaethant. Gwelais enghraifft wirioneddol annymunol yn un o'r ffeiriau haf y llynedd pan gredai gwraig ei bod hi wedi prynu cig moch a oedd o Gymru, ond mewn gwirionedd doedd o ddim. Wyddoch chi, roedd y ddraig arno, ond oddi tano roedd o'n dweud nad oedd rhan ohono i gyd o Gymru, ac roedd hi'n hynod o flin am y peth ac fe ddaeth hi ataf i a dweud wrthyf i pa mor flin yr oedd hi. Felly, credaf ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn. Ac efallai mai dyna un o'r cyfleoedd a gawn ni wrth ymadael ag Ewrop.

Fe wnaethoch chi sôn am enwau bwyd wedi'u hamddiffyn, a soniais yn fy sylwadau agoriadol fod y teulu PFN yn tyfu'n gyflym. Rwyf wedi bod yn falch iawn bod hyd yn oed y rhai nad oedden nhw yn yr arfaeth—mae'r UE yn eu trin yn union fel y byddent wedi gwneud pe na baem ni'n gadael yr UE, felly credaf ei bod hi'n dda iawn. Maen nhw'n bwyntiau gwerthu gwych. Yn sicr mae'r cynhyrchwyr hynny yr wyf i wedi siarad â nhw yn meddwl ei fod yn fantais ac yn bwynt gwerthu unigryw iawn. Eto, credaf ei bod hi'n bwysig iawn, ar ôl i ni adael yr UE, ein bod ni'n ceisio gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod yr EU yn anrhydeddu unrhyw gynlluniau ar y gweill hyd at eu cwblhau. Hefyd, cwmnïau a chynhyrchwyr bwyd sydd â PFN ar hyn o bryd, rwy'n credu y dymunant gadw hynny. Yn sicr, ceir enghreifftiau o wledydd y tu allan i'r UE sydd wedi cofrestru cynhyrchion, felly nid wyf yn gweld fod hynny o reidrwydd yn rhwystr. Felly, credaf fod cynsail cryf i drafod ein rhan barhaus yn y cynllun, ac mae'r rheini'n drafodaethau sydd ar y gweill.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am archfarchnadoedd a sicrhau eu bod yn parhau i werthu cynnyrch Cymreig. Un llwyddiant mawr, rwy'n meddwl, oedd Asda yn gwerthu cig oen Cymru. Unwaith eto, fe wnaethon nhw arbrofi gyda hynny mewn rhai archfarchnadoedd, ond maen nhw'n bwriadu cynyddu'r nifer hwnnw, a chredaf y bydd hynny'n fuddiol, yn amlwg, ar gyfer cig oen Cymru.

Yn sicr roedd Blas Cymru yn llwyddiannus iawn. Gwn fod ychydig o bobl wedi dweud wrthyf i nad oedden nhw'n hapus fod y gwobrau Gwir Flas wedi dod i ben. Rhaid imi ddweud bod y rhan fwyaf o gwmnïau yr wyf yn siarad â nhw wrth eu boddau gyda gwobrau Great Taste y DU, ond mae'n rhywbeth yr wyf i'n hapus iawn i'w ystyried yn y dyfodol—cael ein gwobrau ein hunain.

Fe wnaethoch chi ofyn ynglŷn â Phrosiect Helics. Caiff hynny ei gyflawni gan y tair canolfan fwyd rhagoriaeth, fel y gwyddoch chi, y ganolfan diwydiant bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb yng Ngheredigion a'r Ganolfan Dechnoleg Bwyd yng Ngholeg Menai yn Llangefni. Nod Helics yw ysgogi'r arloesi hwnnw a chefnogi datblygu cynnyrch newydd sydd o fudd, yn amlwg, i bob un o'n cwmnïau bwyd a diod, gan gydweithio i ddiwallu eu hanghenion. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Fe'i lansiwyd yn Blas Cymru ym mis Mawrth ac fe gafodd £21.2 miliwn o gyllid Cynllun Datblygu Gwledig. Yr hyn y mae'n ei wneud yw gweithio gyda chwmnïau sy'n ymwneud â dros 400 o fusnesau bwyd a diod, ac mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu bob dydd. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod os yr hoffai enghraifft benodol o beth mae'r prosiect yn ei wneud, ond disgwylir, dros oes y cynllun, iddo gynhyrchu tua £100 miliwn i economi Cymru a hefyd ddiogelu miloedd o swyddi.

Fe wnaethoch chi sôn am y cyllid a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog—cronfa bontio yr UE i helpu ein busnesau. Yn ein cyfarfod bord gron Brexit ddoe yn Aberystwyth, roedd croeso brwd iddo. Mae llawer o'n cwmnïau yn bryderus iawn ynglŷn â gwneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy ac, yn sicr, bydd y £50 miliwn—ac rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid—dyna'r cyllid cychwynnol, ac rydym ni'n gobeithio y bydd mwy. Rydych chi'n gofyn a oes gen i ddigon o arian. Mae'n amlwg nad oes gennych chi fyth ddigon o arian, nag oes? Ond rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi clywed fy mhle. Ond, yn sicr, credaf y bydd y cyllid mewn gwirionedd yn helpu cwmnïau i baratoi ar gyfer Brexit, ac maen nhw'n dweud wrthym ni mai dyna beth y maen nhw'n ei ddymuno. Felly, byddwn yn aros i weld, yn amlwg, ar y diwedd, os bydd angen mwy arnom.

Fe wnaethoch chi holi ynglŷn â Hybu Cig Cymru, a soniais am y cyllid ychwanegol a gyhoeddais ar eu cyfer. Maen nhw'n mynd i ddatblygu a chyflwyno rhaglen ddatblygu allforio well ar gyfer cig coch Cymru. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn inni geisio cynyddu gwerthiant. Mae'n amlwg y bydd gwerthiant allforio yn elfen allweddol o hynny, a soniais fy mod i wedi dweud wrthyn nhw i fod mor uchelgeisiol â phosib yn y cyfarfod, ac os gallant ragori arno, byddai hynny'n fuddiol, yn amlwg, i bawb.

Ni allaf weld adeg pan na fyddwn ni'n cyflwyno llaeth mewn ysgolion, ac, yn sicr, mae'r ffermwyr yn dweud wrthyf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i wneud hynny. Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol, ond byddaf yn gwneud yn siŵr y byddaf yn rhoi hynny ar yr agenda.