5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:45, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, ac rwy'n dal i lwyddo i gadw fy agwedd gwydr hanner llawn er gwaethaf yr holl ansicrwydd. Dywedwch fy mod yn sôn yn ddefodol am ansicrwydd Brexit, ond rwy'n siŵr, yn eich sgyrsiau, wrth i chi fynd o amgylch eich rhanbarth chi, rhaid bod cynhyrchwyr amaethyddol y sector bwyd a diod yn dweud wrthych chi, oni chawn y Brexit mwyaf meddal, ceir llawer iawn o ansicrwydd.

Yr un peth am y diwydiant bwyd a diod sydd wedi fy nharo yw'r ymdeimlad hwnnw o egni ac uchelgais sydd ganddo, ac mae hynny wedi ei gyplysu â diddordeb pobl yn ein cynnyrch, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu cyrraedd ein targed yn llawer cynharach nag a gynlluniwyd. Ac rydych chi'n iawn, mae cymaint o gyfleoedd, ac rwy'n ei chael hi'n hawdd gwerthu, os mynnwch chi—. Lle bynnag yr af, mae gan bobl ddiddordeb mawr mewn bwyd o Gymru. Fe wnaethoch chi sôn am gig oen yn arbennig, ac rydym ni'n adnabyddus am ein cig oen, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond credaf, hyd yn oed dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl yn dechrau dysgu mwy am ein cynnyrch.

Fe wnaethoch chi holi ynglŷn ag allforion a chyfeirio at allforion a sut y gallem ni fod yn gwneud llawer mwy, ac nid wyf yn anghytuno â hynny. Credaf fod ein presenoldeb mewn lleoedd fel Anuga yn Gulfood yn Dubai, yn SIAL ym Mharis, yn hanfodol bwysig. Rhain yw ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf y byd ac rydym wedi cefnogi presenoldeb Cymreig sylweddol yn y digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau y cânt y cyfle i gael y fasnach ychwanegol honno o dramor. Unwaith eto, Hybu Cig Cymru—mae'n bwysig iawn, fel sefydliad, eu bod yno, yn chwifio'r faner ar ran bwyd a diod Cymru.

Rydym ni'n gwybod bod diwydiant cig coch Cymru yn arbennig o ddibynnol ar y marchnadoedd allforio i allu cyflawni'r prisiau premiwm hynny, felly mae galw tramor mawr yn cynyddu'r prisiau wrth giât y fferm ac yn helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw, ac mae hynny wedyn yn sicrhau mwy o elw ar gyfer y cadwyni cyflenwi.

Ceir cyfleoedd, wrth inni ddod allan o Ewrop, wrth gwrs, ac mae'n hollbwysig inni eu cael, ond ar hyn o bryd mae gennym ni fynediad digyfyngiad at 500 miliwn o gwsmeriaid posib, ac mae Brexit yn peryglu hynny—ni allwn ni ddianc rhag hynny. Felly, mae'r rhyddid hwnnw o'r rhwystrau gwahaniaethu ar sail tariff a dim tariff yn golygu bod ein cynhyrchwyr yn gallu allforio i wledydd eraill yr UE yn llawer haws. Ond rwy'n gwneud popeth y gallaf i gynorthwyo cwmnïau i gyrraedd marchnadoedd newydd, ac yn amlwg, yn fy holl drafodaethau, yn arbennig gyda Llywodraeth y DU, ni allaf ailadrodd yn ddigon aml sut y mae bargen fasnach synhwyrol mor bwysig ar gyfer ein diwydiant bwyd a diod.