Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 23 Ionawr 2018.
Rwy'n credu bod hwnna'n awgrym da iawn, alla i ddim gweld pam na allen nhw. Fe soniais i o'r blaen mai eu cenhadaeth yw ysgogi arloesedd a chefnogi datblygiadau prosiect newydd a fyddai o fudd i'n cwmnïau bwyd a diod, felly dwi ddim yn gweld pam na allai hynny fod yn rhan ohono. Rydym ni wedi arwain y ffordd o ran ailgylchu; pam na allwn ni arwain y ffordd mewn gwneud hynny? Mae'n arbennig ar gyfer busnesau bach a chanolig, felly un o'r pethau y maen nhw'n ei wneud yw ymateb, er enghraifft, i ymholiadau technegol, felly rwy'n credu y gallai hyn weddu i'r dim.