5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:54, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, yn dilyn y cwestiwn a ofynnodd Joyce Watson i chi yn gynharach, a fydd Prosiect Helics yn cael ei ddefnyddio i roi adnoddau i weithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig fel y gallan nhw newid rhai o'u prosesau? Gan fod y rhan fwyaf o'r enghreifftiau y mae pobl wedi sôn amdanynt hyd yma yn bethau y mae cwmnïau fel Coca-Cola, Waitrose, Wetherspoon, Iceland, McDonald's wedi eu gwneud—cwmnïau mawr iawn gyda'r adnoddau sydd eu hangen i newid rhai o'r prosesau a'r trefniadau ar gyfer eu deunydd pacio yn weddol gyflym. Rwy'n cytuno— fe allem ni farchnata Cymru fel rhywle eco-gyfeillgar iawn o ran ei chynhyrchion bwyd a diod, ond credaf y bydd angen help ar rai yn y sector busnesau bach a chanolig, felly maes allweddol ar gyfer Prosiect Helics, byddwn yn ei ddweud.